Dros y 12 mis diwethaf, buom yn mynychu ac yn cyflwyno sesiynau yn Wythnos Arweinwyr Digidol, GovCamp Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wythnos Dechnoleg Cymru a Comms Cymru.

Buom hefyd mewn digwyddiadau a gynhaliwyd gan gyrff hyd braich eraill a sefydliadau sector cyhoeddus gan gynnwys cynadleddau gan Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, uwchgynhadledd ddigidol Iechyd Digidol a Gofal Cymru a Procurex.

Fe wnaethom hefyd gynnal ein digwyddiadau ein hunain gan gynnwys Dolenni Digidol (digwyddiad wyneb yn wyneb ar gyfer uwch arweinwyr a gynhaliwyd mewn lleoliadau yn ne, gorllewin a gogledd Cymru) lle daeth 54 o bobl i gymryd rhan.

Yn ein digwyddiad yn gogledd Cymru, ym mis Tachwedd, daeth 34 i gymryd rhan ar gyfer ‘AI mewn gwasanaethau cyhoeddus: noson gyda Deborah Morgan o Sefydliad Alan Turing'. Ymysg y sectorau oedd yn bresennol oedd Prifysgol Bangor, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Yn ein digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Mawrth, daeth 20 i gymryd rhan ar gyfer ‘Diolgelu dyfodol Gwasanaethau cyhoeddus – noson gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker'. Dyma rai o'r sefydliadau oedd yn bresennol:

Cyngor Caerdydd, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Materion Cymreig, Gyrfa Cymru, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru a ProMo-Cymru.

Gwnaethom hefyd gynnal gweminar dan arweiniad panel ar gynaliadwyedd digidol, fel rhan o'n gwaith i godi ymwybyddiaeth o sero net. Daeth 53 o bobl i'r wemin ac ers hynny, mae 436 o bobl wedi gwylio'r weminar ar YouTube. Yn wahanol i'n gweminarau eraill, roedd gan y weminar hon nifer uchel o fynychwyr o'r sector preifat a Llywodraeth y DU.

Y camau nesaf

Ym mis Gorffennaf 2024, byddwn yn teithio i orllewin Cymru ar gyfer ein sesiwn Dolenni Digidol nesaf, gan wahodd uwch arweinwyr wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Rydym wedi ymrwymo i gynnal y digwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol hyn ar gyfer uwch arweinwyr ledled Cymru bob deufis dros y 12 mis nesaf. Ein hamcan gyda'r digwyddiadau hyn yw creu amgylchedd lle gall arweinwyr gysylltu, trafod heriau cyffredin, rhannu arferion da, a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithredu. Bydd Dolenni Digidol hefyd yn cael eu hintegreiddio'n agos â'n rhaglen hyfforddi newydd ‘Campws Digidol – Arwain gwasanaethau cyhoeddus modern', fydd ynddechrau'r hydref hwn.

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 6: Camau i helpu busnesau yng Nghymru i ddiwallu anghenion trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus yn well.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Cydweithio

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu