Yn ystod y cam alffa, gwerthusodd tîm gwasanaeth grantiau Chwaraeon Cymru 4 prototeip gyda chyfranogwyr a oedd wedi gwneud cais am gyllid chwaraeon cymunedol yn flaenorol – dyma beth ganfuon nhw
27 Mai 2022
Mae Chwaraeon Cymru a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn gweithio ar brosiect Ystwyth i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru trwy wella gwasanaeth ymgeisio digidol y sefydliad.
Yn dilyn cam darganfod, parhaodd Chwaraeon Cymru a CDPS i weithio gyda’i gilydd ar gam alffa 12 wythnos, a orffennodd yng nghanol mis Ionawr 2022 – mae’r postiad blog hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r cam alffa.
Deall llywio
Wrth i’r tîm alffa bwyso a mesur y gwaith, fe sylweddolon ni na allem gyflawni’r cwmpas gwreiddiol. Fe gytunon ni gyda noddwyr y prosiect, Chwaraeon Cymru a CDPS, i ganolbwyntio ar y canlynol:
- gweithio gyda thîm cyfathrebu digidol Chwaraeon Cymru i ddeall sut mae defnyddwyr yn llywio i’r adran grantiau ar wefan Chwaraeon Cymru
- gweithio gyda’r tîm cysylltiadau â phartneriaid i ddeall cyrhaeddiad eu partneriaid cenedlaethol, sy’n helpu gwneud chwaraeon yng Nghymru yn fwy cynhwysol
- deall posibiliadau technegol y system bresennol ac, os oes modd, ymchwilio i’r farchnad ar gyfer opsiynau
- dylunio, profi ac ailadrodd prototeipiau sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r broses ymgeisio
Defnyddwyr wedi’u clystyru ar bob pen o’r raddfa sgiliau digidol
Fe wnaethon ni werthuso 4 prototeip mewn 15 sesiwn gyda chyfranogwyr a oedd wedi ymgeisio ar gyfer buddsoddiadau neu grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru yn flaenorol. Dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi’u dysgu:
- roedd y cyfranogwyr yn hoffi’r ffaith bod Chwaraeon Cymru yn ymateb yn gyflym i argyfyngau, fel llifogydd a’r pandemig COVID-19, gyda grantiau newydd a oedd yn caniatáu i weithgarwch chwaraeon barhau
- roedd defnyddwyr Cronfa Cymru Actif – sef cronfa chwaraeon cymunedol Chwaraeon Cymru – yn hapus i helpu Chwaraeon Cymru i wella’r broses grantiau
- mae sgiliau digidol isel yn rhwystr rhag ymgeisio – i gwblhau’r set gymhleth o gwestiynau sy’n ffurfio’r broses ymgeisio
- roedd y cyfranogwyr wedi’u clystyru ar bob pen o’r raddfa sgiliau digidol – uchel ac isel – ond yn tueddu’n fwy tuag at y pen isaf
- roedd yr ymgeiswyr yn ystyried awdurdodau lleol fel yr hyn yr oedd y tîm alffa yn ei ddisgrifio fel ‘dieithriaid dirgel’ neu ‘ffrindiau agos’ – roedd y cyfranogwyr naill ai’n methu deall pam y byddai angen iddynt drafod cais gyda nhw neu’n dibynnu ar eu cymorth bob tro
- mae sefydliadau heb leoliad ffisegol yn cael trafferth ateb cwestiynau ynglŷn â lleoliad, awdurdod lleol a chyfeiriad
Beth nesaf?
Cyflwynodd y tîm ganfyddiadau ac argymhellion y cam alffa i noddwyr y prosiect, Chwaraeon Cymru, ym mis Ionawr, ochr yn ochr â chynnig ar gyfer y cam nesaf.
Rydyn ni bellach mewn cyfnod alffa 14 wythnos estynedig (rydyn ni’n ei alw’n ‘alffa+’) sy’n canolbwyntio ar ddylunio a phrofi proses ymgeisio am grantiau o’r dechrau i’r diwedd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys profi prosesau swyddfa gefn a fyddai’n gweddu’n well i anghenion defnyddwyr a Chwaraeon Cymru.
Dywedwch wrthym am eich profiad o wasanaethau grantiau yn y blwch sylwadau isod. Ac os ydych yn gorff chwaraeon a hoffai ymwneud â datblygu gwasanaeth Chwaraeon Cymru, anfonwch neges e-bost atom
Darllenwch fwy:
Un tro … mewn tîm gwasanaeth Ystwyth
Ceisiadau sain? Helpu i fwrw’r rhwyd grantiau yn ehangach
Cam darganfod Chwaraeon Cymru – yr hyn a ddysgodd y tîm