Nod y prosiect

Ein nod oedd gwella cyrhaeddiad ac effaith grantiau buddsoddi cymunedol Chwaraeon Cymru.

Y broblem i'w datrys

Cyflwynodd y broses bresennol i ymgeisio am grant nifer o rwystrau i bobl oedd eisiau gwneud cais am grant Chwaraeon Cymru.

Trwy gynnal cyfweliadau’n ystod y cyfnod darganfod (cam cyntaf ymchwilio dyluniad gwasanaeth Ystwyth), gwnaeth y tîm ddarganfod bod defnyddwyr heb y wybodaeth briodol, yn enwedig o ran y cymwysterau sydd eu hangen am grantiau. Roedd iaith gymhleth y broses hefyd yn digalonni defnyddwyr, a’u hachosi i droi ffwrdd. Yn ystod pob cam o’r cais, roedd defnyddwyr yn gweld hi’n anodd derbyn yr help oedd angen arnynt.

Roedd proses anhyblyg a diffyg eglurder ynghylch cymhwysedd yn atal pobl rhag gwneud cais am grantiau - pob a ddylai allu gwneud.

 

Partneriaid

Ein prif bartner yn y prosiect hwn oedd Chwaraeon Cymru.

Roedd ein tîm cyfunol hefyd yn ddibynnol iawn ar gyfranogiad y bobl hynny oeddent yn ceisio diwallu eu gofynion; clybiau chwaraeon ar lawr gwlad, cymdeithasau a chymunedau ledled Cymru, gyda ffocws arbennig ar grwpiau anodd eu cyrraedd.

Crynhoi'r gwaith

Cyfnod darganfod

Yn ystod y cyfnod darganfod, cawsom olwg gliriach ar anghenion ymgeiswyr grantiau a'r rhwystrau a wynebwyd ganddynt.

Fe wnaethom hefyd archwilio heriau technegol, gweithredol a dylunio gwasanaeth ymgeisio am grant. Fodd bynnag, roedd yr ymchwil yn ehangach nag edrych ar y system grantiau yn unig.

Y nod oedd deall sut y gallai grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru gynyddu eu cyrhaeddiad a’u heffaith.

Cyfnod alffa

Yna symudom i gam arbrofol nesaf dylunio gwasanaeth Ystwyth - alffa. Yn y cam hwn, fe wnaethom ddylunio a phrofi rhannau o’r broses ymgeisio i ddiwallu anghenion defnyddwyr presennol a rhai’r dyfodol, yn ogystal ag anghenion Chwaraeon Cymru.

Estynnwyd y cyfnod alffa i ddylunio a phrofi taith diwedd-i-ddiwedd y defnyddiwr, gan gynnwys sut effeithiodd ar brosesau cefn swyddfa a gofynion systemau. Hefyd, helpodd i lunio'r fanyleb gaffael am system newydd i reoli'r broses i Chwaraeon Cymru

Gwersi a ddysgwyd

Dangosodd ein gwaith bod digon o le i wella'r broses ymgeisio am grantiau presennol trwy ddylunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Byddai gwasanaeth mwy cynhwysol yn lleihau'r baich ar ddefnyddwyr, tra'n diwallu anghenion sefydliadol Chwaraeon Cymru.

Byddai gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn gwneud grantiau yn hygyrch i bawb oedd yn gymwys - felly gallai cyllid chwaraeon wneud y gwahaniaeth gwirioneddol y dylai.

Y camau nesaf

Pan ddaeth ein gwaith â’r prosiect i ben, dechreuodd Chwaraeon Cymru weithredu'r system newydd a ddyluniwyd o amgylch anghenion y defnyddiwr.

Mae gennym berthynas barhaus â Chwaraeon Cymru wrth iddynt nodi prosiectau digidol newydd – byddwn yn eu cefnogi i adeiladu timau cyflawni eu hunain, a blaenoriaethu’r gwaith hwn.