Mae tîm o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wrthi’n siarad â defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru ynghylch eu canfyddiad nhw o systemau digidol mae cleifion yn eu defnyddio – ysgrifenna'r rheolwr cyflwyno Hannah Pike
4 Mawrth 2022
Beth ydyn ni’n ei ‘ddarganfod’?
Mae’r cyfnod darganfod, a gomisiynwyd gan Wasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd (DSPP), sef y rhaglen genedlaethol newydd i wella gwasanaethau digidol i gleifion GIG Cymru, yn casglu mewnwelediadau i sut mae pobl yng Nghymru yn cael mynediad at ofal sylfaenol (yn fwy penodol, gwasanaethau meddygon teulu).
Bydd y cyfnod darganfod, sy'n para am 12 wythnos, yn helpu DSPP i ddeall y pethau hanfodol i'w hystyried wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau digidol mae cleifion yn eu defnyddio mewn gofal sylfaenol.
Bydd ein hymchwil gyda chleifion yn ymdrin â chwestiynau fel:
- pa mor aml ydych chi’n rhyngweithio â’ch meddyg teulu?
- pa mor dda y mae’r rhyngweithiad yn bodloni eich anghenion?
- pa wasanaethau meddygol digidol presennol, os o gwbl, ydych chi’n eu defnyddio?
Meddygfeydd bach a mawr
O ran darparwyr gofal sylfaenol, rydym ni eisiau siarad â phobl o feddygfeydd mawr a bach, gwledig a threfol, sy’n cael eu rheoli neu eu rhedeg gan bartneriaid. Yn ogystal â meddygon teulu eu hunain, byddwn yn ymchwilio i brofiad nyrsys practis, rheolwyr a staff gweinyddol. Yn yr un modd â chleifion, rydym eisiau cael barn fanwl, ar lefel unigol, am sut mae'r defnyddwyr hyn yn rhyngweithio â thechnoleg ddigidol.
Bydd y cyfnod darganfod hefyd yn edrych ar dirwedd ehangach polisi gofal iechyd, technoleg a buddiannau rhanddeiliaid eraill yn ogystal â defnyddwyr uniongyrchol gwasanaethau meddygon teulu.
Beth yw’r canlyniad?
Rydym yn disgwyl i'r sgyrsiau hyn arwain at fewnwelediadau cyfoethog i beth sy'n bwysig i bobl sy'n derbyn a darparu gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.
Yn bendant, ar ddiwedd y cyfnod darganfod, gobeithiwn allu gwneud argymhellion gwybodus, cydbwyso anghenion defnyddwyr, buddiannau ehangach rhanddeiliaid a strategaeth y llywodraeth, am ba ffurf y gallai gwasanaethau digidol mae cleifion yn eu defnyddio fod yn y dyfodol.
Hannah Pike yw rheolwr cyflwyno darganfyddiad braenaru Gofal Sylfaenol