Mae hyrwyddo Cymru yn genedl ddigidol fywiog yn gofyn am ymdrech ar y cyd i sicrhau bod gan bawb y sgiliau sydd eu hangen i lywio'r dirwedd ddigidol sy'n newid yn gyson mewn ffordd hyderus. Nod ein hacademi arweinwyr newydd y byddwn yn ei hagor ar gyfer ceisiadau y mis nesaf, yw grymuso uwch arweinwyr, perchnogion gwasanaethau ac arweinwyr uchelgeisiol i ymgysylltu'n hyderus â thrawsnewid digidol ac addasu i gymdeithas gynyddol ddigidol.

Byddem wrth ein bodd o'ch cael chi gyda ni ar 10 Gorffennaf at Yr Egin, Caerfyrddin, am 5yh i 7yh am luniaeth ysgafn, sgwrs afaelgar, a mewnwelediadau gan arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus sy'n sbarduno trawsnewid digidol o fewn eu sefydliadau.

Hefyd, bydd ein tîm gwasanaeth dysgu sgiliau digidol yn bresennol, ochr yn ochr â'n bwrdd CDPS ac uwch dîm arweinyddiaeth. Byddant ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gennych am yr academi arweinwyr newydd a thrafod sut y gallant gefnogi'ch sefydliad orau i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus digidol.