Mae'r rhaglen gwasanaethau cyhoeddus modern blaenllaw yn cynnig cyfuniad o arbenigedd academaidd, mewnwelediadau ymarferol, a dysgu arweinyddiaeth i sicrhau bod gan unigolion y wybodaeth i weithredu trawsnewid digidol yn eu sefydliad.

Ynglŷn â'r rhaglen

Mae'r rhaglen hon yn agored i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio'r cofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros 5 diwrnod gyda 4 sesiwn wyneb yn wyneb ac 1 sesiwn ar-lein.

Fe'i cynlluniwyd i arwain cyfranogwyr trwy ystod o bynciau digidol sy'n sail i rôl arweinyddiaeth uwch, gyda ffocws ar gefnogi trawsnewid.

Bydd y rhai sy'n cwblhau'r rhaglen yn gallu ymuno â'n rhwydwaith cyn-fyfyrwyr, a fydd yn cysylltu uwch arweinwyr ledled Cymru ac yn darparu mynediad i ddigwyddiadau perthnasol.

"Fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, rwyf wrth fy modd gyda lansiad rhaglen hyfforddi CDPS ar gyfer arweinwyr y sector cyhoeddus. Mae'r rhaglen flaengar hon yn cyd-fynd ag ethos Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol drwy flaenoriaethu cynaliadwyedd digidol tymor hir, meithrin cydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru, a sicrhau ffocws ar yr iaith Gymraeg a hygyrchedd.

Trwy arfogi arweinwyr y sector cyhoeddus â'r sgiliau i gofleidio technoleg a meddylfryd sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr o fewn dylunio gwasanaethau, nid yn unig mae'r rhaglen hon yn meithrin diwylliant o arloesi mae hefyd yn sicrhau bod ein gweithredoedd heddiw o fudd i genedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru."

– Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal yn:

Canolbarth Cymru, lleoliad I'w gadarnhau

  • 28 a 29 Ionawr 2026 (wyneb yn wyneb)
  • 26 Chweror 2026 (ar-lein)
  • 25 a 26 Mawrth 2026 (wyneb yn wyneb)

Gorllewin, Gogledd Cymru (I'w gadarnhau - 2026)

Bydd rhaid i'r cyfranogwyr fod ar gael ar gyfer 5 diwrnod llawn y rhaglen yn eu lleoliad dewisol.

Amcanion dysgu

Yn ystod y rhaglen, byddwn yn cynnwys:

  • Diffiniad o drawsnewid digidol: deall ei berthnasedd i flaenoriaethau strategol yng Nghymru
  • Asesu aeddfedrwydd digidol: nodi heriau a'u heffaith ar nodau sefydliadol
  • Mynd i'r afael â heriau cyffredin: mynd i'r afael â phroblemau a rennir ar draws rhwydwaith cymheiriaid
  • Cofleidio dyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr: dysgu sut i fynd i'r afael â phroblemau defnyddwyr trwy ddigidol, gwella effeithlonrwydd ac arbed arian
  • Cynllunio a gweithredu gweithrediadau: datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer trawsnewid sefydliadol
  • Dewch yn rhan o rwydwaith cyn-fyfyrwyr: mynediad i ddigwyddiadau arweinyddiaeth unigryw ar ôl cwblhau rhaglen

Cost

Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i sefydliadau datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn i eraill drwy gymryd rhan mewn ymchwil.

Ceisiadau

Canolbarth Cymru 2026

I wneud cais am y rhaglen 'Arwain gwasanaethau cyhoeddus modern’ yn Ganolbarth Cymru, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais a chyflwyno datganiad personol. 

Dylai eich datganiad personol:

  • Ddigsrifio eich rôl fel uwch arweinydd o fewn eich sefydliad
  • Esbonio sut rydych chi’n teimlo y byddai’r rhaglen yn fuddiol i chi a’ch sefydliad.

Dylai eich datganiad personol fod yn glir, yn fanwl, a darparu enghreifftiau penodol o’ch profiadau fel arweinydd. Dylai hefyd esbonio sut y byddai’r rhaglen yn effeithio ar eich datblygiad proffesiynol a’ch llwyddiant sefydliadol.

Defnyddiwch y maes uwchlwytho ffeiliau yn y ffurflen hon i gyflwyno eich datganiad personol. Rydym yn croesawu cyflwyniadau ysgrifenedig, fideo neu sain. Rydym yn awgrymu 2 baragraff ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig (ond dim mwy na 1 tudalen A4, ffont Arial maint 12 ar fwlch 1.5) a dim mwy na 3 munud o ffilm ar gyfer cyflwyniadau fideo neu sain.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu anhawster cyflwyno eich datganiad personol, cysylltwch â ni – dysgu@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru

Bydd ceisiadau'n gau am 12pm ddydd Gwener 5 Rhagfyr 2025.

Gorllewin, Gogledd  a De Cymru 2026

Llenwi ein ffurflen mynegi diddordeb i fod y cyntaf i glywed pan fydd ceisiadau'n agor i ymuno â charfan yn y Ganolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Dengys ymchwil bod dynion yn ymgeisio am swydd os ydynt yn bodloni 60% o'r meini prawf tra bo menywod a phobl eraill sydd ar yr ymylon ar y llaw arall yn tueddu i wneud cais dim ond os ydynt yn bodloni pob un o'r meini prawf.  Felly, os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob maen yr meini prawf, parhewch i gysylltu.  Byddem wrth ein boddau yn cael sgwrs â chi a gweld a fyddech chi'n addas ar gyfer y swydd.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.  Rydym yn croesawu cyfle cyfartal beth bynnag fo anabledd, niwroamrywiaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, rhywedd a chyflwyniad rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.

Rydym yn tynnu rhestr fer gan ddefnyddio proses ddall.