Ar gyfer pwy mae’r gymuned

  • cyfathrebwyr proffesiynol sy'n cefnogi pobl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus  
  • rheolwyr cyfathrebu ac ymgysylltu 
  • swyddogion cyfathrebu 

Mewn cyfarfod arferol, efallai y byddwn yn: 

  • trafod sut i gyfathrebu newid digidol drwy ysgrifennu nodiadau wythnosol, cofnodion blog, cynnal sioeau dangos a dweud a gweithio yn agored 
  • cael siaradwr gwadd i siarad am bwnc arbenigol 
  • trafod ffyrdd y gallwn gefnogi eraill, timau digidol yn benodol, i rannu eu gwaith
  • annog mynychwyr i ddod â her sy'n eu hwynebu i'w datrys fel grŵp

Darllenwch yr awgrymiadau ar gyfer gweithio'n agored i helpu i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus.

 

Sut rydyn ni'n cyfarfod

Mae’r grŵp yn cwrdd ar Microsoft Teams ar y trydydd dydd Mercher bob mis am 12pm.

Cewch wahoddiad i'r cyfarfodydd unwaith y byddwch chi wedi ymuno.

 

Diwylliant

Dylai aelodau’r gymuned bob amser drin ei gilydd gyda pharch a bod yn:

  • garedig
  • ystyriol
  • adeiladol
  • cynorthwyol
  • cefnogol

Dydyn ni ddim yn cofnodi ein cyfarfodydd rhithiol rheolaidd.

Dyma ofod diogel i ddylunwyr cynnwys drafod eu heriau’n agored. Dylai’r aelodau barchu bod eraill o bosib yn rhannu problemau yn gyfrinachol. 

Os ydyn ni’n dewis dweud wrth eraill beth rydyn ni wedi bod yn ei drafod, ni fyddwn yn rhannu’r manylion am bwy ddywedodd beth.

 

Arweinydd y gymuned

Ymunwch â'r gymuned Cyfathrebu Digidol

Mae’r gymuned yn wirfoddol a bob amser yn agored i aelodau newydd.

Os hoffech chi ymuno â’r gymuned hon, llenwch y ffurflen:

Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).