Cymunedau, offer a hygyrchedd - Mae Pennaeth Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y defnyddiwr yma’n CDPS, Jo Goodwin, yn amilinellu’r tair blaenoriaeth ar gyfer y math yma o ddylunio, wrth iddi ddechrau yn ei swydd newydd.
Yn ystod fy wythnosau cyntaf gyda CDPS, rwyf wedi bod yn rhannu syniadau gyda llawer o bobl y tu mewn a thu allan i'r sefydliad. Mae'r meddwl ar y cyd yma wedi herio syniadau cychwynnol, ac wedi helpu mireinio'r tair blaenoriaeth ar gyfer dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr dros y misoedd nesaf.
Mae panel cynghori CDPS, timau mewnol y sefydliad, cydweithwyr o fewn llywodraeth leol ac iechyd, a llawer o rai eraill, wedi darparu heriau ac adborth i greu’r blaenoriaethau canlynol. Diolch yn arbennig i bawb sydd wedi helpu i’w llunio!
Blaenoriaethau
1. Pobl, cymunedau, a rhwydweithiau
Mae blaenoriaeth cyntaf dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr am bobl. Mae nifer o rwydweithiau a chymunedau ehangach wedi’u sefydlu ar draws Cymru’n barod, yn y sector cyhoeddus ac yn ehangach, gan gynnwys cymunedau ymarfer CDPS. Mae angen y cymorth a’r rhwydweithiau hyn arnom yn gweithio ar hyd a lled Cymru er mwyn gwreiddio dylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr ar draws gwasanaethau Cymreig.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ar ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn gweithio ar eu pen eu hunain Boed hyn yn ymchwilydd defnyddiwr unigol, dylunydd cynnwys unigol, dylunydd gwasanaeth yn gweithio gydag arbenigwyr pwnc, neu dîm gydag un dylunydd. Rydym yn eich gweld chi, mae'n rôl anodd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, a byddwn yn gweithio i ddod â phobl ynghyd (pawb, nid dim ond y rhai sy'n gweithio fel unigolion) i rannu, cynllun gradda a chefnogi ein gilydd. Trwy gymunedau, rydym hefyd yn gobeithio rhannu arfer da a lle bynnag y gallwn, dileu dybygu’r gwaith (faint ohonom sy'n ceisio gwneud union yr un pethau yn ein sefydliadau?).
Yn dilyn adolygiad o’r hyn sydd eisoes yn digwydd, byddwn yn adeiladu model ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned, gan sicrhau bod lle i ymarferwyr, a rheini sydd â diddordeb mewn dysgu am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Byddwn hefyd yn ceisio dod â chymunedau gweithredu ynghyd er mwyn i gymunedau tymor byr, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ddod at ei gilydd a datrys problemau cyffredin.
Yr uchelgais i gymunedau yw torri seilos a pherchnogi a rhannu arfer gorau, sgiliau a gwersi.
The ambition for communities is to break silos and to own and share best practice, skills, and learning.
2. Offer a fframwaith
Yn debyg i beintiwr gyda brws paent, mae angen yr offer cywir ar ymarferwyr dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i wneud eu gwaith.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn edrych ar y pecyn cymorth ac yn ei lenwi â'r holl bethau sydd ei angen, er mwyn galluogi dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn CDPS, ac yn ehangach.
Yr uchelgais yw cymryd y gorau o bob rhan o Gymru, ei rannu a’i ddefnyddio. Mae llawer o'r bethau rydym yn eu hystyried eisoes ar waith mewn rhai sefydliadau - rydym yn edrych i'w rhannu a'u graddio, felly cysylltwch â ni os oes gennych bethau i'w rhannu!
Nid ydym wedi cadarnhau beth sydd i mewn ac allan eto - mae gennym rai syniadau, ond bydd yn gwestiwn o ran yr hyn sydd ei angen ar ymarferwyr. Ymhlith y pethau rydyn ni'n eu harchwilio, mae offer ResearchOps megis recriwtio cyfranogwyr, ffurflenni caniatâd, cymhellion ymchwil, a llyfrgelloedd ymchwil. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ymarfer CDPS i archwilio canllawiau ac offer.
Os oes gyda chi pethau i’w rhannu, cysylltwch â ni. Ac os hoffech gymryd rhan, y ffordd yr hoffwn fynd ati i adeiladu’r hyn sy’n digwydd yw cydweithio ar draws y sector cyhoeddus, felly gadewch i ni wneud hyn gyda’n gilydd! Hefyd, os nad oes gennych amser i gymryd rhan, ond y byddai teclyn canllaw neu broses benodol o gefnogaeth yn eich rôl, rhowch wybod i ni.
3. Gwneud dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn hygyrch i bob gwasanaeth ar draws Gymru
Mae llawer o bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac eisiau gwneud eu gwaith a'u gwasanaethau mor dda â phosib Mae'r flaenoriaeth hon yn ymwneud â gwneud dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn agored ac yn hygyrch i'r bobl hynny.
Mae yna nifer o anwiredd am greu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae rhai rwyf wedi clywed amdanynt yng Nghymru yn cynnwys:
“Mae arnaf ofn gofyn i bobl beth yw eu barn am fy ngwasanaeth, rwy’n gwybod ei fod ymhell o fod yn berffaith”.
Dwi’n aml yn clywed bod heriau creu dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn cynnwys diffyg amser a gallu.
“Does dim digon o oriau mewn diwrnod i gwblhau’r gwaith”.
Un arall yw bod dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ond yn berthnasol i brosiectau neu raglenni, ac nad oes angen i wasanaethau sy’n gweithredu yn y modd ‘busnes fel arfer’ feddwl am y peth.
Bydd y gwaith hwn yn dod o hyd i ffyrdd o gyrraedd swyddogion a thimau gwasanaethau cyhoeddus sydd ar drywydd diddiwedd o ddarparu gwasanaethau. Y gobaith yw rhoi ffyrdd ar waith i gysylltu â defnyddwyr, a dod o hyd i newidiadau bach i wasanaethau, er mwyn gwneud hyn un cam ar y tro.
Yr uchelgais ar gyfer yyw ymgorffori newidiadau bach ar draws holl wasanaethau Cymru, er mwyn cael effaith yr effaith mwyaf posib dros amser.
Heriau
Mae’r tair ardal blaenoriaeth am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn uchelgeisiol. Mae llawer o heriau a rhwystrau i'w goresgyn os ydym am fod yn llwyddiannus.
Gwyddom fod seilos ym mhob maes o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o dorri lawr rhai ohonynt.
Gwyddom hefyd fod nifer ag ofn mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio. Mae pethau wedi cael eu treialu o'r blaen ac yn anffodus, heb weithio. Mae'n fwy cyfforddus derbyn y meysydd sydd ddim yn gweithio fel y gobeithiwyd, yn hytrach na peidio mentro a chynnig pethau newydd.
Rydym yn ymwybodol mai ychydig iawn o arian ac amser sydd yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae pawb dan bwysau, yn brysur ac yn ei chael hi'n anodd parhau i ddarparu gwasanaethau (gall dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr helpu gydag amser ac arian!).
Gwyddom fod bwlch sgiliau yn y maes digidol a dylunio, gyda ffordd yma o weithio yn ei ddyddiau cynnar mewn llawer o ardaloedd.
Rydyn ni'n ymwybodol ein bod ni ar daith. Ond mae’n daith gyffrous – mwy o antur, a dweud y gwir. Mae’n gyffrous ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyn y gallwn gyflawni.
Os oes gennych adborth, syniadau neu eisiau cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Anfonwch ‘tweet’ atom ni, e-bostiwch, neu dewch i un o'n cymunedau ymarfer.