Ein panel cynghori

Mae ein panel cynghori yn arbenigwyr digidol sy’n gweithredu fel seinfwrdd a chyfaill beirniadol i CDPS.

Mae’r panel yn cyfarfod bob chwarter. Rydym hefyd yn galw ar eu gwybodaeth arbenigol rhwng cyfarfodydd panel, lle credwn y gallant ychwanegu gwerth. Er enghraifft, gallai hyn fod i gefnogi ein proses recriwtio neu siarad yn ein digwyddiadau.


Andy Adams MBE

Mae Andy yn gyn Brif Uwch-arolygydd gyda Heddlu Gwent ac mae wedi arwain ar dechnoleg gorfodi’r gyfraith ar draws y DU ac Ewrop. Mae o’r farn bod llwyddiant digidol yn dechrau gydag anghenion defnyddwyr a defnyddio technoleg i’w diwallu. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o reoli prosiectau a rhaglenni ac mae’n aelod blaenllaw o gymuned y gwasanaethau brys. Mae Andy wedi arwain prosiectau newid a chyd-fentrau yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ac mae’n gyfaill beirniadol i uwch arweinwyr yn y meysydd hynny.

Dilynwch Andy ar Twitter
Cysylltu ag Andy ar LinkedIn


Ashley Bale

Ashley yw datblygwr y tai SMART cyntaf i oedolion ag anableddau fyw â chymorth yn y DU. Hefyd, mae’n rhedeg Tech4Good Caerdydd, sy’n cynnal digwyddiadau am ddim i ddwyn gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, mudiadau nid er elw, rhaglenwyr, technolegwyr ac ysgogwyr newid ynghyd.

Dilynwch Ashley ar Twitter
Cysylltu ag Ashley ar LinkedIn


Heledd Evans

Heledd yw rheolwr gwasanaethau digidol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan arwain tîm o gyfieithwyr ac arbenigwyr dylunio a digidol. Mae ganddi dros 14 blynedd o brofiad cyfathrebu a thimau digidol y sector cyhoeddus. A chanddi angerdd am bopeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, mae gan Heledd awydd di-baid i helpu creu gwell gwasanaethau i bobl Cymru.

Dilynwch Heledd ar Twitter
Cysylltu â Heledd ar LinkedIn


Dr Hushneara Miah

Mae Hushneara yn arbenigwr pwnc ym maes caffael a rheoli’r gadwyn gyflenwi yn gynaliadwy, gyda ffocws ar faterion carbon isel. Mae’n gyfarwyddwr y Ganolfan Cynaliadwyedd, a sefydlwyd ganddi, i fod yn gatalydd mewn meysydd fel rheoli’r gadwyn gyflenwi, yr economi gylchol, sero net a llythrennedd carbon. Mae Hushneara yn aelod o banel cynghori ar ddatblygu cynaliadwy Trafnidiaeth Cymru ac mae’n gyfarwyddwr anweithredol is-gwmni Llywodraeth Cymru, Diwydiant Cymru. 

Cysylltu â Dr Hushneara ar LinkedIn


Ignacia Orellana

Mae Ignacia yn arweinydd dylunio gwasanaethau. Mae’n arbenigo ar ddylunio yn y sector cyhoeddus ac, ar hyn o bryd, mae’n gweithio i Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU. Mae’n helpu sefydliadau i fynd ati i ddylunio gwasanaethau o un pen i’r llall a gweld cyfleoedd i gydweithredu ar draws ffiniau sefydliadol. Mae ganddi brofiad o ddatblygu cymunedau gwasanaeth, gan ddylunio gwasanaethau cymhleth i gynorthwyo defnyddwyr drwy Brexit a Covid a theithiau cyfan defnyddwyr. Hefyd, mae’n angerddol am alluogi gwasanaethau teg, cynhwysol a hygyrch, ynghyd â chreu timau amrywiol, sydd wedi’u grymuso. 

Dilynwch Ignacia ar Twitter
Cysylltu â Ignacia ar LinkedIn


Chris Owen

Mae gan Chris dros 22 flynedd o brofiad o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus digidol ar lefel leol a chenedlaethol. Ar ôl treulio 14 blynedd yn datblygu gwasanaethau digidol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ymunodd Chris â Llywodraeth Cymru yn 2012 i arwain y gwaith o adeiladu a chyflwyno rhaglen uchel ei phroffil Hwb. Ym mis Gorffennaf 2021, ailymunodd Chris â Chyngor Castell-nedd Port Talbot fel prif swyddog digidol, lle y mae’n eirioli’r defnydd arloesol o’r digidol, data a thechnoleg i drawsnewid profiad defnyddwyr, yn gyhoedd ac yn staff. 

Dilynwch Chris ar Twitter
Cysylltu â Chris ar LinkedIn


Jenni Taylor

Jenni Taylor yw Pennaeth Gweithrediadau Cyhoeddi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’n gyfrifol am gyhoeddi digidol yn yr ONS. Cyn ymuno â’r gwasanaeth sifil, bu’n gweithio mewn timau digidol addysg uwch am 14 blynedd, gan arwain tîm o ddylunwyr cynnwys ym Mhrifysgol Caerdydd yn fwyaf diweddar. Mae ganddi brofiad helaeth o ddylunio cynnwys a chyhoeddi digidol. 

Dilynwch Jenni ar Twitter
Cysylltu â Jenni ar LinkedIn


Yorath Turner

Mae Yorath yn Bennaeth Gallu a Doniau Digidol gyda Llywodraeth yr Alban. Mae’n arwain ar ddatblygu’r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg, ynghyd â mentrau i feithrin sgiliau digidol a chynyddu amrywiaeth ar draws sector cyhoeddus yr Alban. Hefyd, mae’n gyfarwyddwr rhaglen ar gyfer Academi Ddigidol yr Alban, gan ddarparu hyfforddiant sydd ar gael i holl staff y sector cyhoeddus yn yr Alban a’r tu hwnt. 

Dilynwch Yorath ar Twitter
Cysylltu â Yorath ar LinkedIn


Dafydd Vaughan

Mae Dafydd yn arbenigwr technoleg ddigidol sydd â phrofiad hirsefydledig o helpu llywodraethau a chwmnïau i addasu i oes y rhyngrwyd. Roedd yn gyd-sylfaenydd Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU ac mae wedi helpu i greu unedau gwasanaethau digidol ar draws y byd. Mae wedi helpu sefydliadau i reoli hen dechnoleg anghynaliadwy ac adeiladu timau digidol cryf. 

Dilynwch Dafydd ar Twitter
Cysylltu â Dafydd ar LinkedIn