Rydym yn cynnal ymchwil i ddeall yn well profiadau unigolion sydd ar y cyrion yng Nghymru wrth iddynt ddefnyddio'r system fudd-daliadau bresennol.  

Ein nod yw nodi'r heriau a'r rhwystrau mwyaf sy'n eu hatal rhag cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo ac i ddod o hyd i ffyrdd i wella’r system.  

Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddau brif faes: deall profiadau pobl trwy ymchwil defnyddwyr, a phrofi a allwn ddylunio gwasanaethau gwell a symlach. 

Fel rhan o’n hymchwil, fe wnaethom edrych yn benodol ar dri math o fudd-daliad yng Nghymru: prydau ysgol am ddim, y Grant Hanfodion Ysgol, a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor.  Roeddem am ddeall beth sy'n atal pobl rhag cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo a sut y gallem wneud y buddion hyn yn fwy hygyrch. 

Buom yn siarad â 31 o bobl o grwpiau ymylol gan gynnwys gofalwyr, pobl anabl, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, y rhai heb fynediad at arian cyhoeddus, a rhieni sengl.  Gwnaethom hefyd gyfweld â 10 defnyddiwr procsi - pobl o elusennau a sefydliadau trydydd sector sy'n gweithio'n agos gyda'r cymunedau hyn. 

Canfyddiadau 

Roedd yr hyn y gwnaethom ei ddysgu yn bryder i ni ond nid oedd yn syndod chwaith. Yn syml, dyw llawer o bobl ddim yn ymwybodol bod y budd-daliadau hyn yn bodoli a bod ganddynt hawl iddynt ac nid ydynt yn ymwybodol o ble y daw'r budd-daliadau hyn chwaith hyd yn oed.  Mae ffurflenni cais yn aml yn gymhleth ac yn anodd eu deall, gan greu rhwystrau sy'n atal pobl rhag gwneud cais.  

Mae'r pwysau emosiynol yn sylweddol hefyd - dywedodd pobl wrthym fod y system yn un sobor ac yn un sy'n gwneud iddynt deimlo cywilydd" gan ddweud eu bod yn teimlo'n bryderus ac yn ofidus wrth geisio cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.  Dywedodd un person: 

“Mae'r system yn sobor iawn – mae’n ddiraddiol.  Mae wir yn gwneud i mi ofyn: a yw bywyd yn werth ei fyw?’  

Mae yna hefyd broblemau ymarferol Mae gwahanol awdurdodau lleol yn gweinyddu buddion mewn gwahanol ffyrdd, gan greu loteri cod post.  Mae cyfathrebu rhwng sefydliadau yn fratiog, gan wneud y broses yn fwy dryslyd fyth i bobl sy'n aml yn delio â digwyddiadau bywyd trawmatig. 

Ond mae gobaith yn yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.  Awgrymodd llawer y byddai dull siop un stop yn gwneud pethau'n llawer symlach.  

Byddech yn meddwl y byddai'r broses yn llawer symlach - os ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol, dylech hefyd gael hawl i Grant Prydau Ysgol am Ddim a Hanfodion Ysgol hefyd. 

Rydym bellach yn cwblhau ein hargymhellion a byddwn yn cyhoeddi adroddiad cryno a dadansoddiad manylach yn ystod yr wythnosau nesaf.  

Mae'r ymchwil hon yn rhoi darlun clir i ni o ble mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion i wneud y broses o allu ymgeisio am Fudd-daliadau yng Nghymru yn llawer iawn haws a hygyrch i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. 

Mae lleisiau pobl â phrofiad byw wrth wraidd y gwaith hwn.  Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r rhai sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu eu profiadau.  

Gwyliwch y sioe dangos a dweud diweddaraf i gael rhagor o wybodaeth a gofrestrwch ar gyfer diweddariadau prosiect.