Mae rhaglen arweinyddiaeth newydd i uwchsgilio arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi dathlu cwblhau ei charfan gyntaf.
Mae’r rhaglen ‘Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus Modern’ a ddatblygwyd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cefnogi uwch arweinwyr, perchnogion gwasanaethau ac arweinwyr uchelgeisiol i drawsnewid eu sefydliad drwy fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd o fewn trawsnewid digidol.
Ymgasglodd y garfan gyntaf ar gampws Ysgol Fusnes Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Cawsom fewnwelediad gwerthfawr i alluogi eu timau defnyddio’r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus digidol sy'n hawdd i'w defnyddio. Roedd 15 o gyfranogwyr, gyda chynrychiolwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, y GIG a chynghorau sir lleol. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i arwain cyfranogwyr trwy amrywiaeth o bynciau digidol sy’n sail i rôl uwch arwain, gan gynnwys sut i asesu aeddfedrwydd digidol eu sefydliad, sut i fynd i’r afael â phroblemau defnyddwyr trwy ddigidol a datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer trawsnewid sefydliadol.
Dywedodd Peter Thomas, Pennaeth Sgiliau a Galluoedd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS): “Mae ein rhaglen arweinyddiaeth newydd yn dangos ymroddiad CDPS i ail-lunio’r ffordd y mae gwasanaethau digidol yn cael eu cynllunio a’u darparu. Mae’n mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y galw cynyddol am wasanaethau ar-lein a’r sgiliau digidol sydd eu hangen i fodloni’r disgwyliadau hynny.
“Bydd y grŵp yn mynd yn ôl at eu sefydliadau gyda’r ddealltwriaeth ddiweddaraf o Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, a chyffro a chysylltiadau newydd ar draws y sector. Nid yn unig maen nhw wedi ysbrydoli ei gilydd ond maen nhw wedi ein hysbrydoli ni hefyd a gobeithio y byddan nhw'n lledaenu'r awydd hwnnw i sicrhau bod digidol yn gyfrifoldeb pawb.”
Croesawodd y rhaglen sgyrsiau gwadd gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Chwaraeon Cymru, Sefydliad Turing, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr. Y gobaith yw y gall y rhaglen barhau i gymell mwy o arweinwyr i gymryd rhan mewn ysgogi newid ledled Cymru.
Dywedodd Joshua Hunt, Perchennog Gwasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru a oedd yn rhan o’r garfan gyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen: “Mae wedi bod yn brofiad amhrisiadwy, nid yn unig yn cwrdd â phobl mewn cymaint o swyddi a sectorau gwahanol, ond hefyd yn dysgu gan y siaradwyr sydd wedi rhannu eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth gyda ni. Dwi’n annog unrhyw un, dim ots beth yw eich rôl, i wneud cais amdani.”
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “"Fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, rwyf wrth fy modd gyda lansiad rhaglen hyfforddi CDPS ar gyfer arweinwyr y sector cyhoeddus. Mae'r rhaglen flaengar hon yn cyd-fynd ag ethos Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol drwy flaenoriaethu cynaliadwyedd digidol tymor hir, meithrin cydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru, a sicrhau ffocws ar yr iaith Gymraeg a hygyrchedd.”
Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal y rhaglen yng Ngogledd Cymru yn ystod mis Chwefror, cyn dychwelyd i Dde Cymru ym mis Ebrill. Os ydych chi’n arweinydd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a bod gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am garfan yn y dyfodol, ewch i wefan CDPS am ragor o wybodaeth.