Drwy gydol ein gwaith yn ystod cyfnod darganfod cymuned ymchwil defnyddwyr, fe wnaethom ddysgu llawer am ymchwil defnyddwyr yng Nghymru a chymunedau presennol eraill.

Crynhoi ein canfyddiadau

Mae crynodeb lefel uchel o’r hyn a ddysgom yn cynnwys:

Y dirwedd gymunedol bresennol

  • Nid yw cymunedau presennol yn diwallu anghenion ein darpar aelodau
  • Mae pobl eisiau cymorth sy’n benodol i gyd-destun sector cyhoeddus Cymru

Ein darpar aelodau

  • Mae pobl sydd ag ystod o brofiad ymchwil defnyddwyr eisiau ymuno â'r gymuned
  • Efallai na fydd pob aelod mewn rôl ymchwil defnyddiwr
  • Mae pobl sy'n gwneud ymchwil yng Nghymru yn aml yn gweithio ar eu pen eu hunain
  • Nid yw pobl sy’n gwneud ymchwil yng Nghymru wastad yn gweithio fel rhan o dîm Ystwyth

Datblygu gyrfa a phroffesiwn

  • Mae cyfle i’r gymuned dyfu’r proffesiwn ymchwil defnyddwyr yng Nghymru
  • Mae pobl eisiau defnyddio'r gymuned fel cyfle rhwydweithio
  • Mae yna awydd i'r gymuned gefnogi datblygiad gyrfa trwy fentora a hyfforddiant

Eiriol dros ymchwil defnyddwyr

  • Mae diffyg cefnogaeth sefydliadol i ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yng Nghymru
  • Mae pobl eisiau i'r gymuned eu cefnogi i ddangos gwerth ymchwil defnyddwyr i'w sefydliad

Anghenion aelodau'r gymuned

  • Mae cael amser i fod yn rhan o gymuned yn broblem i rai pobl
  • Mae pobl yn fwy tebygol o ymuno â chymuned sy'n drefnus ac yn cynnig ystod eang o bynciau
  • Mae aelodau'r gymuned eisiau cadw cysylltiad parhaus

Grŵp o aelodau craidd

Clywsom fod rhedeg cymuned yn ymrwymiad amser enfawr a bod datblygu grŵp ‘aelodau craidd’ yn helpu i sicrhau bod y llwyth gwaith yn cael ei rannu ymhlith mwy o bobl. Fe wnaethom recriwtio ein haelodau trwy ein hymchwil.

Ar ôl ein hymchwil, fe wnaethom gynnal sesiwn chwarae yn ôl gyda'n haelodau craidd. Pwrpas sesiwn chwarae yn ôl yw cael adborth a deall beth sydd angen i ni ei wneud nesaf.

Fe wnaethom adeiladu map ffordd i ddal y tasgau tymor hir yr oedd angen i ni eu cyflawni, a rhoi ein tasgau tymor byr i mewn i docynnau Trello i ddechrau gweithio arnynt.

Cymuned lleiaf hyfyw

Helpodd hyn ni i ddiffinio ‘cymuned lleiafswm hyfyw,’ i benderfynu beth oedd angen ei wneud cyn i ni lansio, a chynnal ein sesiwn gyntaf gydag aelodau.

Fe wnaethom hefyd adeiladu siarter cymunedol, amcanion drafft a chanlyniadau allweddol i'n helpu i gadw ar y trywydd cywir.

Fe wnaethom sefydlu cyfarfodydd rheolaidd gyda’n grŵp aelodau craidd, lle rydym yn cyfarfod i:

  • rannu cynnydd
  • gwneud penderfyniadau ynghylch pa sesiynau y byddwn yn eu cwmpasu
  • gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein hamcanion

Lansio

Lansiwyd ein cymuned ar 20 Ebrill 2023. Roedd yn llwyddiant ysgubol gyda 19 o bobl yn bresennol o amrywiaeth o sefydliadau megis: 

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Chwaraeon Cymru
  • ProMo-Cymru
  • Prifysgol Caerdydd
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a llawer mwy

Roedd yn galonogol clywed pa mor gyffrous oedd ein haelodau am y gymuned, ac rydym eisoes mewn trafodaethau am y posibilrwydd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a’r potensial sydd gan y gymuned ar gyfer y proffesiwn ymchwil defnyddwyr yng Nghymru.

Roedd rhoi’r ymdrech mewn i'r cyfnod darganfod ac amser cynllunio wedi talu ffordd, gan ei fod yn golygu y gallem fod yn hyderus yn ein lansiad.

Ymunwch â'r gymuned ar gyfer ymchwil defnyddwyr yng Nghymru.

A screenshot of a meeting on Zoom

Ein cyfarfod cymunedol cyntaf

Diolchiadau

Rydyn ni eisiau diolch yn arbennig i: 

  • ein haelodau craidd ar gyfer ymuno i gefnogi arweinyddiaeth a thwf ein cymuned: Gruffydd Weston (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Pauline O'Hare (Gyrfa Cymru), Charmine Smikle (Gofal Cymdeithasol Cymru), Fiona Johns (Cyngor Bro Morgannwg), Julian Blewett (GIG Cymru), Sian Lloyd Pugh (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Chris Sutton (dxw)
  • Neil Vass o Co-op am rannu’r hyn a wnaeth ei gymuned ef yn un llwyddiannus, a rhoi caniatâd i ni ddwyn rhai o’i syniadau gwych
  • ein cyfranogwyr ymchwil am roi llawer o fewnwelediad defnyddiol i ni adeiladu arno ac am roi eu hamser i ni
  • pawb sydd wedi cofrestru hyd yn hyn