Mae Cymuned Ymchwil Defnyddwyr Cymru yn gymuned a arweinir gan aelodau sy’n bodoli i: 

  • gysylltu pobl ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd â diddordeb mewn / neu sy’n ymarfer ymchwil defnyddwyr 
  • adeiladu a chefnogi arfer ymchwil defnyddwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru 
  • hyrwyddo pwysigrwydd ymchwil defnyddwyr ar gyfer helpu sectorau cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni a dylunio gwasanaethau cyhoeddus gwell 
  • datblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil defnyddwyr o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru  
  • trafod, herio a gwella’r ffordd y mae ymchwil defnyddwyr yn cael ei wneud mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru 
 

Ar gyfer pwy mae’r gymuned

Does dim rhaid i chi fod mewn rôl ymchwilydd defnyddwyr i ymuno â’n cymuned. 

Efallai y byddai gennych ddiddordeb yn y gymuned hon os ydych: 

  • gyda diddordeb mewn deall defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru 
  • gwneud gweithgareddau ymchwil fel rhan o’ch rôl yn y sector cyhoeddus yng Nghymru 
  • yn ymchwilydd defnyddwyr ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru 
  • wedi mynychu cwrs hyfforddi gyda CDPS ac eisiau deall mwy am roi ymchwil defnyddwyr ar waith 
  • eisiau dysgu am ymarfer a hyrwyddo ymchwil defnyddwyr 

Neu, os ydych yn gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru megis: 

  • GIG Cymru 
  • Llywodraeth Cymru 
  • Llywodraeth leol 
  • Gofal cymdeithasol 
  • Addysg 
  • Sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus 
 

Sut rydyn ni’n cwrdd

Rydym yn defnyddio Microsoft Teams i gadw mewn cysylltiad â’r gymuned.

Mae’n lle anffurfiol i sgwrsio am bopeth sy’n ymwneud ag ymchwil defnyddwyr, rhannu gwybodaeth a helpu gyda materion ymchwil defnyddwyr go iawn a rhwydweithio â phobl o’r un anian.

Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cynnal cyfarfodydd personol ledled Cymru wrth i’n cymuned dyfu. 

 

Sut i gymryd rhan

Mae’r gymuned yn wirfoddol a bob amser yn agored i aelodau newydd.

Os hoffech ymuno â’r gymuned hon, llenwch y ffurflen hon, gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost sector cyhoeddus, er enghraifft:

  • wales.nhs.uk
  • llyw.cymru

Byddwn yn anfon gwahoddiad atoch trwy e-bost i ymuno â’n gymuned ar Microsoft Teams.

Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).