Rydym yn casglu tystiolaeth am anghenion denfyddwyr er mwyn canfod risgau, heriau a chyfleoedd rhagnodi electronig – a sut y gall helpu byrddau iechyd i arbed arian – gan ddefnyddio adborth a phrofiad y defnyddwyr ar y pryd

30 Tachwedd 2022

Rydym yn gweithio gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ddwy ran o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP). Mae un o’r darnau gwaith rydyn ni’n ei gefnogi yn gysylltiedig â ‘gofal eilaidd‘. Mae’n golygu bod CDPS a DMTP yn gweithio gyda byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG er mwyn gwella’r ffordd y mae meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi o fewn ysbytai Cymru. 

Ar hyn o bryd mae swm sylweddol o’r broses ar bapur, ond mi fydd yn symud at system ddigidol cyn hir. Mae’r system yn cael ei adnabod fel rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau (ePMA). Mae’r gwaith yma’n rhan allweddol o’r DMTP. Ei nod yw gwneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhob man yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, effeithlon ac effeithiol. 

Y cyd-destun gofal iechyd yn ysbytai Cymru

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn ysbytai yn trawsgrifio, rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu a rheoli meddygaeth yn ddyddiol.

Pwrpas y broses hon yw: 

  • darparu’r feddyginiaeth gywir   
  • i’r claf cywir   
  • ar yr adeg gywir 
  • yn y ffordd gywir 

Mae llawer o wasanaethau iechyd Lloegr a’r Alban eisoes wedi digido eu prosesau rhagnodi meddyginiaethau. Mae enghreifftiau o ragnodi electronig yn bod yng Nghymru, megis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac ar gyfer cemotherapi mewn canolfannau canser. Fodd bynnag, mae rhagnodi meddyginiaethau mewn ysbytai yn broses sydd yn dal i fod ar bapur i raddau helaeth.

Pwysigrwydd y cyfnod darganfod

Mae disgwyl i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru symud o’r system bapur draddodiadol i system electronig mor gyflym ag y mae’n ddiogel gwneud. Byddant yn prynu systemau digidol newydd fel rhan o’r newid hwn. Efallai y bydd angen i lawer o brosesau, tasgau a rolau newid hefyd.   

Mae’r newid busnes hwn i ePMA yn cyflwyno cyfleoedd newydd i wella diogelwch cleifion yn ogystal â’r profiad iddyn nhw a chlinigwyr. Ond, mae sawl ffactor y mae angen i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau eu hystyried cyn dechrau trawsnewid eu prosesau rhagnodi meddyginiaethau, gan gynnwys:    

  • systemau a phrosesau presennol   
  • teithiau defnyddwyr megis trefniadau dyddiol eu staff  
  • anghenion defnyddwyr   
  • rhwystrau ac anfanteision posibl megis  
    • sgiliau aeddfedrwydd digidol 
    • isadeiledd cefnogol fel wifi a chaledwedd 

Nodau yr ymchwil

  • Casglu tystiolaeth am gyd-destun, heriau a chyfleoedd gweithredu ePMA. 
  • Deall anghenion a safbwyntiau ein defnyddwyr am ragnodi electronig. 
  • Deall os bydd ein canfyddiadau, tystiolaeth neu gefnogaeth yn dal i fod yn berthnasol a ddefnyddiol i bawb, hyd yn oed os ydynt yn deillio o lai o safleoedd.  

Sut byddwn ni’n ei wneud 

“Trwy ddeall ddefnyddwyr a’u holl brofiad o dechnoleg, yn enwedig sut maen nhw’n gwneud synnwyr ohono yng nghyd-destun defnydd, drwy ystyried agweddau emosiynol, deallusol, a synhwyrus eu rhyngweithio â thechnoleg… pwysigrwydd deall nid sut mae pobl yn defnyddio technoleg yn unig, ond eu bod nhw hefyd yn byw gydag e.”

Ymchwil yn The Wild, Rogers (2017)

Pan rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr yn CDPS, nid ydym yn edrych i ddal barn. Yn hytrach, rydyn ni’n gwrando ar bobl i ddeall y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu yn eu cyd-destun eu hunain.

O ran cyfnod darganfod gofal eilaidd, rydym wedi cynllunio dwy rownd o ymweliadau safle i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hyn fel y gallwn arsylwi, dilyn a chyfweld â’n holl ddefnyddwyr o fewn lleoliad ysbyty go iawn – o’u cam cyntaf, yr holl ffordd drwodd i gwblhau’r dasg yr aethant ati i’w gwneud.   

Drwy arsylwi a phrofi prosesau a senarios wyneb yn wyneb, rydym yn gobeithio adnabod cyfleoedd i wella datrysiadau a gwasanaethau digidol newydd, yn seiliedig ar adborth a phrofiad defnyddwyr ar y pryd. 

Gyda phwy fyddwn ni’n siarad 

Pan rydyn ni’n dweud ‘defnyddiwr’ rydyn ni’n golygu pawb sydd ag unrhyw fath o bwynt cyffwrdd ac effaith ar y canlyniad terfynol.

Mae hyn yn cynnwys pobl sydd: 

  • angen meddyginiaeth   
  • yn trawsgrifio siartiau meddyginiaeth a phresgripsiwn  
  • yn rhagnodi meddyginiaeth   
  • yn dosbarthu meddyginiaeth  
  • yn gweinyddu meddyginiaeth   
  • yn rheoli meddyginiaeth   
  • yn symud a storio meddyginiaeth   
  • yn goruchwylio rhyddhau cleifion   
  • yn creu ac anfon llythyrau cyngor am ryddhau cleifion 
  • yn rheoli cyfrifiaduron ac isadeiledd 
  • yn datblygu polisi ac arweiniad  

Mae’r rhestr yma’n edrych fel un hirfaith a chynwysfawr. Fodd bynnag, os gallwn ystyried pob senario a phroses bosibl, faint o amser ac arian fydd hyn yn ei arbed i bob bwrdd iechyd pan fyddan nhw’n dod i gaffael system rhagnodi digidol newydd? 

Camau nesaf 

Byddwn yn blogio am ein hymchwil defnyddwyr wrth i ni fynd – gan ddal y drych i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, a bod yn agored a thryloyw am yr hyn rydyn ni’n ei ddarganfod.    

Bydd y cyfnod darganfod yn un 16 wythnos, ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Yn y cyfnod hwnnw, rydyn ni’n gobeithio darganfod y risgiau, yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer rhagnodi electronig.    

Bydd yr ymweliadau safle yn hanfodol bwysig i ni gael dealltwriaeth wirioneddol o’r hyn sy’n digwydd ar lawr wardiau ein hysbytai. Rydym yn edrych ymlaen at rannu beth fyddwn yn ei ddarganfod gyda chi yn fuan.  

Dysgwch ragor am DMTP trwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr 

Cofrestrwch i gylchlythyr CDPS – Canolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus