Presgripsiynu digidol mewn ysbytai (gofal eilaidd)
Cefndir
Disgwylir y bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn symud i bresgripsiynu digidol a gweinyddu meddyginiaethau. Mi fydd hefyd disgwyl eu bod yn gaffael ac yn gweithredu presgripsiynu electronig, yn ogystal â gweinyddu meddyginiaethau (ePMA) fel rhan o’r newid hwn.
Waeth beth fo’r dewis o system ePMA, bydd hyn yn golygu newidiadau i nifer o brosesau, tasgau, a rolau o bosib, ar draws ragnodi, rhoi meddyginiaethau, rheoli meddyginiaethau, rhyddhau, a’r hyn sy’n digwydd wedi hynny. Mi fydd yn digwydd ar draws wahanol gwefanau a lleoliadau gofal arbenigol.
Daw hyn â chyfleoedd newydd i wella diogelwch, yn ogystal â gwella profiad cleifion a chlinigwyr. Ond mae yna hefyd gyfyngiadau, anghenion defnyddwyr newydd, ‘realiti blêr’ ffyrdd gweithio o ddydd i ddydd, a systemau a phrosesau presennol, rhwystrau ac anfanteision i’w deall.
Beth yw’r nod?
Deall anghenion a safbwyntiau’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, rheoli a derbyn meddyginiaethau mewn ysbytai (gofal eilaidd) yng Nghymru.
Pa broblemau gallai’r prosiect eu datrys i bobl?
Drwy’r darganfyddiad hwn, rydym yn gobeithio dangos i fyrddau iechyd a thimau gweithredu lleol y risgiau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â symud i ePMA mewn ysbytai, fel y gallant baratoi’n ddiogel, dewis yr opsiynau gorau a gweithredu yn y ffordd sy’n rhoi’r budd mwyaf.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw partner CDPS yn y darganfyddiad. Mae CDPS yn gweithio gydag arbenigwyr pwnc o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol, ac yn cynnal ymchwil defnyddwyr gyda’r bobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu neu roi meddyginiaethau mewn ysbytai.
Beth mae CDPS wedi’i wneud?
- darllen dros 38 o adroddiadau ymchwil blaenorol a chanfyddiadau ar ePMA
- cynhaliwyd dros 9 awr o gyfweliadau â rhanddeiliaid i ddeall disgwyliadau ePMA
- 6 awr o gyfweliadau gyda defnyddwyr presennol systemau ePMA
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Dadansoddiad o’r holl gyfweliadau a gwblhawyd hyd yma, ynghyd â 3 ymweliad safle ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Sut bydd y gwaith hwn yn helpu cyflawni’r strategaeth ddigidol i Gymru?
Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol
Darparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod wedi’u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr a’u bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.
Cenhadaeth 5: economi ddigidol
Ysgogi ffyniant a gwytnwch economaidd trwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.
Cenhadaeth 6: data a chydweithio
Mae gwasanaethau’n cael eu gwella trwy gydweithio, gyda data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu.
Postiadau blog
Gwella’r broses ragnodi mewn ysbytai gan flaenoriaethu anghenion denfyddwyr – cyhoeddwyd 30 Tachwedd 2022
Dod ynghyd i wella ansawdd gwasanaethau presgripsiwn yng Nghymru – cyhoeddwyd 2 Tachwedd 2022