Mae ein tîm 'Cwrdd â safonau digidol' yn gyfrifol am ddatblygu Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, yn ogystal â chefnogi timau gwasanaeth ledled Cymru i ymgysylltu â'r safonau. 

Mae Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan wasanaethau digidol newydd neu wedi'u hailgynllunio a ariennir gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu dylunio a'u darparu mewn ffordd gyson, ddiogel a syml, gan ddiwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. 

Ddiwedd 2022 a dechrau 2023, cynhaliodd y tîm gyfres o sioeau teithiol ledled Cymru. Nod y sioeau teithiol oedd codi ymwybyddiaeth o Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, darganfod pa mor dda y cânt eu deall ledled Cymru a deall pa gymorth sydd ei angen i ddechrau ymgorffori'r safonau hyn.  

Yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd yn y sioeau teithiol, a'r mewnwelediadau a gafwyd o ddadansoddi'r ymgysylltiad cyfredol â'r safonau cyhoeddedig, mae'r tîm 'Cwrdd â safonau digidol' wedi nodi sawl cyfle i wella'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein defnyddwyr. 

Mae ein dadansoddiad o'r ymgysylltu â'r safonau cyhoeddedig yn cefnogi sylwadau mynychwyr y sioe deithiol, a oedd yn cynnwys bod arnynt hwy a'u timau angen mwy o arweiniad a chefnogaeth i fodloni pob safon, ac yn seiliedig ar yr adborth hwn rydym yn archwilio sut y gallem wneud hyn.  

Mae rhai enghreifftiau o'r adborth a gawsom yn cynnwys:

"... does dim digon o fanylion sy'n sail i'r safonau i'w defnyddio'n gyson gyda hyder"
"... Byddai mwy o sesiynau ar y safonau eraill yn ddefnyddiol iawn"
"... Hoffwn i wybod mwy am sut rydyn ni'n gweld y defnyddiwr"

Ar hyn o bryd rydym yng nghanol cyfnod darganfod, a fydd yn ein helpu i ddeall maes y broblem yn llawn, fel y gallwn ddarparu'r ateb gorau. Rhan bwysig o'r cam darganfod hwn yw cynnal ymchwil i ddefnyddwyr, a fydd yn caniatáu inni ddeall anghenion y defnyddiwr a sicrhau ein bod yn darparu ateb a datrys yr heriau sy'n wynebu'r defnyddwyr. 

Cymryd rhan 

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am gyfranogwyr i gymryd rhan yn ein hymchwil i ddefnyddwyr. Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac os hoffech gymryd rhan yn yr ymchwil hwn, cysylltwch â'n hymchwilydd defnyddwyr, Promise Michael – promise.michael@digitalpublicservices.gov.wales 

Mae hwn yn gyfle i ni ddeall sut y gallwn eich cefnogi chi a'ch cydweithwyr i fodloni Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, ac rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser wrth ddarparu eich mewnbwn.