Mae cysondeb dylunio yn rhan bwysig o greu profiadau da i bobl sy'n cyrchu cynhyrchion neu wasanaethau digidol.
Mae dyluniad cydlynol nid yn unig yn gwella profiad y defnyddiwr, ond mae hefyd yn adeiladu ymddiriedaeth a chydnabyddiaeth.
Mae rhyngwynebau hawdd a chyfarwydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl lywio gwasanaethau, rhai ohonynt yn gymhleth o ran natur.
Beth yw system ddylunio?
Yn syml, mae system ddylunio yn gweithredu fel un ffynhonnell o wirionedd i ddylunwyr a datblygwyr. Mae systemau dylunio yn amrywio'n fawr yn yr hyn y maent yn ei gynnwys ar draws y sector cyhoeddus a phreifat.
Yr hyn sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin yw cynnig dull strwythuredig o ddylunio – gan helpu timau i ddylunio gwasanaethau neu gynhyrchion sy'n gyson, yn swyddogaethol gadarn, ac yn hawdd eu graddio. Nid yn unig mae'r fframwaith cyfannol yn symleiddio'r broses ddylunio, ond mae hefyd yn meithrin cydweithredu ac effeithlonrwydd.
Cyfnod darganfod i archwilio heriau dylunio yng Nghymru
Yn ddiweddar, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Perago i gwblhau darganfyddiad a oedd yn archwilio heriau dylunio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Arweiniodd Perago ymchwil helaeth i ymgysylltu â'r gymuned ddylunio a datblygu i ddeall eu hanghenion, eu heriau a'u cyfleoedd i gydweithio wrth greu system ddylunio cyson i Gymru.
Amcanion yr ymchwil ar gyfer y cyfnod darganfod oedd:
- asesu ymgysylltiad sefydliadau sector cyhoeddus Cymru â Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru
- deall dulliau presennol o ddylunio gwasanaethau ac effeithiau deddfwriaethol
- nodi amrywiaeth mewn rolau ac amgylchedd strwythurol timau dylunio gwasanaethau
Canfyddiadau allweddol y cyfnod darganfod
- Darparu gwasanaethau digidol anghyson – oherwydd lefelau amrywiol o gyfyngiadau gallu ac adnoddau, mae gwasanaethau digidol ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn anghyson.
- Heriau gyda'r systemau presennol – mae llawer o sefydliadau'n cael trafferth gyda systemau digidol sy'n methu â chyrraedd safonau dwyieithog a hygyrchedd, gan arwain at aneffeithlonrwydd a dyblygu ymdrech.
- Arweinyddiaeth a buddsoddi - mae gweithredu systemau dylunio yn llwyddiannus yn dibynnu'n fawr ar arweinyddiaeth. Mae datgysylltiad yn bodoli'n aml rhwng dealltwriaeth uwch arweinwyr o wasanaethau digidol ac anghenion ymarferol timau digidol.
- Mae rhwystrau i gydweithio – seilos sefydliadol a diffyg safoni yn rhwystro rhannu arferion gorau a chydweithio ar draws gwahanol dimau.
- Materion caffael – nid yw'r prosesau caffael presennol yn blaenoriaethu safonau digidol yn ddigonol, gan arwain at gaffael systemau is-optimaidd nad ydynt yn cefnogi dwyieithrwydd na hygyrchedd yn llawn.
Argymhellion
Roedd 6 argymhelliad o'r cyfnod darganfod:
- Archwilio opsiynau ar gyfer system ddylunio sy'n dylanwadu ar offer, cydrannau a phatrymau, ond nid brand.
- Dylunio'r fframwaith ar gyfer isafswm strwythur sgiliau ar gyfer timau cyflenwi digidol.
- Nodi'r gwasanaethau rhagorol yng Nghymru, er mwyn gosod meincnod o sut beth yw da yn ymarferol.
- Ystyried sut y gellid ymgorffori Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn y broses caffael.
- Meintioli manteision darpariaeth fwy cyson o wasanaethau digidol, i bobl Cymru.
- Dylanwadu ar dimau arweinyddiaeth sector cyhoeddus Cymru, fel eu bod yn deall yn well y manteision a'r angen am wasanaethau digidol y gellir eu rhannu, eu profi.
Mae'r cyfnod darganfod yn dangos yr angen am gydrannau a rennir i wella cysondeb ac effeithlonrwydd gwasanaethau digidol yn sector cyhoeddus Cymru. Drwy fynd i'r afael â'r heriau presennol, gall Cymru wella profiad y defnyddiwr o wasanaethau cyhoeddus a gwneud arbedion effeithlonrwydd mawr.
Y camau nesaf
O'r 6 argymhelliad o'r cyfnod darganfod, mae argymhellion 2 i 6 eisoes yn rhan fawr o'r gwasanaethau a'r gwaith y mae CDPS yn eu harwain ac yn gweithio arnynt. Rydym am fwrw ymlaen ag argymhelliad 1 ac archwilio opsiynau ar gyfer system ddylunio ymhellach.
Ein camau nesaf yw sefydlu panel llywodraethu i ddechrau ystyried beth ddylai'r meini prawf ar gyfer ychwanegu eitemau at system ddylunio Cymru fod. Yn dilyn hyn, rydym yn awyddus i beidio ailddyfeisio neu ail-greu patrymau dylunio, cydrannau sydd eisoes yn bodoli ac sydd ar gael. Felly, byddwn yn adolygu'r hyn sydd eisoes ar gael ac yn gweithio gydag arbenigwyr dylunio yng Nghymru i fabwysiadu eitemau yn ffurfiol i system ddylunio Cymru. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio gyda'n cymunedau ymarfer i ddeall yn well yr hyn sydd ei angen a lle nad oes eglurder iddynt wneud eu gwaith. Bydd hyn yn dechrau creu ôl-groniad o eitemau i'w harchwilio ymhellach.
Ein camau nesaf yw:
- asesu anghenion – gweithio gyda'n cymunedau ymarfer dylunio i ddeall anghenion penodol
- casglu adnoddau – ymgynnull tîm Cymru gyfan i osod y meini prawf ar gyfer mabwysiadu eitemau i'r system ddylunio
- diffinio egwyddorion – sefydlu egwyddorion dylunio
- mabwysiadu cydrannau, patrymau, neu eitemau – adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn bodoli
- dogfennaeth – datblygu dogfennaeth gynhwysfawr
- cynnal a chadw – sicrhau diweddariadau rheolaidd a dolenni adborth