Mae mwy a mwy o ryngweithio â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei wneud ar-lein. Wrth i'r bobl sy'n dylunio'r gwasanaethau ar-lein hyn ymgyfarwyddo ag offer a thechnolegau newydd er mwyn galluogi hyn, ein gwaith ni yw sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn dod ar y daith honno gyda ni. 

Y ffordd orau o wneud hyn yw gwneud ein gwasanaethau digidol mor syml â phosibl i'r defnyddiwr. 

Mae ein Safonau Gwasanaeth Digidol i Gymru yn pwysleisio'r angen i gynnwys pobl wrth ddylunio'r gwasanaethau hyn - yr elfennau a fydd ar–lein ac all-lein, er mwyn cynhyrchu gwasanaethau ar y cyd sy'n well ac yn fwy hygyrch. 

Rydym yn ffodus yng Nghymru bod nifer o gomisiynwyr annibynnol sy'n defnyddio eu llais i hyrwyddo anghenion y sectorau yn y gymdeithas y maent yn eu cynrychioli. 

Yn CDPS, rydym yn gweithio'n agos gyda'r comisiynwyr hyn, i rannu atebion newydd, tynnu sylw at straeon llwyddiant a mynd i'r afael â heriau. Mae Harriet a minnau'n croesawu hyn yn fawr. 

Yn gynharach y mis hwn, gwnaethom gynnal digwyddiad ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Rhannodd y Comisiynydd, Derek Walker, enghreifftiau o arfer da, i ddangos i ni a'r gynulleidfa sut mae cyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn ymgorffori meddwl gwell am effaith eu penderfyniadau a'u gweithredoedd ar genedlaethau'r dyfodol. Mae hwn yn ganllaw gwych yn ein gwaith.  

Ddiwedd mis Ionawr, cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei hadroddiad diweddaraf ‘Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru', cipolwg ar brofiad pobl hŷn o wasanaethau cyhoeddus digidol, gyda llawer yn teimlo eu bod yn cael eu hallgau gan y newid i ddarpariaeth ar-lein.

Hefyd, aeth swyddfa'r comisiynydd i ddigwyddiad ‘Ymladd tân i ddiogelu'r dyfodol – yr her i wasanaethau cyhoeddus Cymru’ ac roedd Derek Walker yn siarad yn y digwyddiad hwn ac roedd yn annog y rhai a oedd yn bresennol i ystyried a chofio am anghenion pobl hŷn wrth ddylunio gwasanaethau. Y consensws gan siaradwyr yn y digwyddiad oedd na ddylem deimlo bod darparu ar gyfer un set o anghenion pobl yn golygu profiad llai o safon i eraill, ac y dylem feddwl am y cynnig gwasanaeth yn ei gyfanrwydd, y bydd rhannau ohono'n ddigidol, rhannau eraill all-lein.  

Mae hyn hefyd yn cysylltu â'n Safonau Gwasanaeth Digidol i Gymru sy'n dweud y dylech edrych ar daith y defnyddiwr o'r dechrau i'r diwedd, gan ddeall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau, boed hynny ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pawb, felly mae'n rhaid i chi ystyried hygyrchedd.

Mae'r comisiynydd yn argymell bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn defnyddio Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru ac yn  cynnwys pobl hŷn, yn enwedig pobl nad ydynt ar-lein, wrth ddylunio gwasanaethau, systemau ac ymchwil berthnasol o'r dechrau, i gyd-gynhyrchu gwasanaethau a pholisïau gwell a mwy hygyrch.

Mae'n rhaid i ni hefyd fynd i'r afael â hawliau siaradwyr Cymraeg i gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith. Gwasanaethau Cymraeg sydd cystal â gwasanaethau Saesneg. Rydym yn argymell newid y ffordd y mae cynnwys Cymraeg yn cael ei gynhyrchu, fel nad yw cyfieithu yn weithgaredd dilynol ond yn digwydd mewn timau bach, fel arfer gyda 3 o bobl: cyfieithydd, arbenigwr pwnc a dylunydd cynnwys, i gyd yn gweithio gyda'i gilydd, a elwir yn ysgrifennu triawd yr ydym wedi bod yn ei rannu yn ein digwyddiadau sioe deithiol.

Mae'r rhyngweithio creadigol yn y tîm yn creu gwell cynnwys Cymraeg a Saesneg, gan fod y cynnwys yn cael ei brofi, ac yn ei alluogi i fod mor syml â phosibl yn y ddwy iaith.

Rydym newydd gwblhau Sioe Deithiol 'Iaith ar Daith' ledled Cymru gyda Chomisiynydd y Gymraeg sy'n esbonio'r dull hwn o weithio.

Roedd yn wych rhannu llwyfan gydag Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, lle siaradodd am ei hangerdd i fyw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel darparwr gwasanaeth, mae gennym rôl i'w chwarae wrth wneud y dewis hwnnw mor hawdd â phosibl. 

Edrychwn ymlaen at weithio'n agosach gyda'r holl gomisiynwyr er budd pawb, i gefnogi cydweithwyr ledled Cymru, a chyflawni eu nodau.