Ydych chi’n gyfarwydd â’r teimlad pan fyddwch chi'n dod oddi ar alwad ac eisiau trafod â rhywun arall amdano ar unwaith?
Rydym wedi cynnal sgyrsiau gyda'r rhai sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn ein hymchwil ar ran CDPS, gan archwilio sut mae pobl yn dylunio, datblygu ac adeiladu gwasanaethau digidol, a'r gwerth a allai fod mewn system ddylunio i Gymru.
Rydyn ni'n dysgu rhywbeth newydd drwy rhyngweithio, gan ennill persbectif hollol wahanol i'r sgyrisiau blaenorol. Mae gennym 11 wythnos i ddysgu gan y rhai sy'n gwneud - y rhai sydd â'r dasg o weithredu newid digidol yng Nghymru - ac mae'n ymddangos bod y tirwedd yn wahanol iawn yn ddibynnol ar y sector.
Yr hyn rydym wedi'i ddysgu
Themâu sy'n dod i'r amlwg yn ystod y mis cyntaf o’r gwaith hwn yw bod pobl eisiau rhannu, ond mae rhai yn cwestiynu lle gall hyn ddigwydd; Mae cadw staff da i ddarparu'r cynnyrch gorau yn anodd; Ac, yn y mannau lle mae arloesedd digidol yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan y rhai sy'n gyfrifol, mae timau yn gwneud pethau gwych gyda chaniatâd i weithredu cynhyrchion sy'n cyflawni anghenion y defnyddiwr... Profiad nad yw pawb yn ei rannu, er gwaethaf eu hymdrechion gorau i gyflawni'n wahanol.
Mae parodrwydd pobl i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn a chyfrannu at yr hyn sydd wedi dod yn drafodaeth fawr gyda chyfuniad o dorf fwyaf blaengar y wlad, wedi ein syfrdanu. Rydym wedi bod yn ymwybodol o'r angen i ymestyn cyrhaeddiad yr ymchwil i gorneli pellaf Cymru; i siarad â'r rhai mewn timau mawr, a'r rhai sy'n rhan o'r tîm. Mae tebygrwydd rhyngddynt i gyd yn y bylchau maen nhw'n eu gweld, ac mae yna arloesedd i oresgyn y pethau “na ellir eu newid” ar hyn o bryd.
Wrth i ni ddechrau'r trydydd sbrint, rydym yn canolbwyntio ar gasglu'r data meintiol i gyd-fynd â'r llu o feddyliau a phrofiadau rydych chi wedi'u rhannu gyda ni hyd yn hyn.
Cymryd rhan
Cadwch lygad am y gwahoddiad i gymryd rhan ar dudalen LinkedIn Perago a thrwy gyfryngau cymdeithasol CDPS.
Gofynnwn hefyd i chi rannu'r gwaith hwn gyda'ch cydweithwyr nad ydynt efallai'n cymryd rhan weithredol yn y rhwydweithiau ar-lein hynny ond sy'n chwarae rhan hanfodol wrth ddylunio digidol yn sector cyhoeddus Cymru.
Mae ein sioe dangos a dweud nesaf ar ddydd Mawrth 19 Mawrth 2yh tan 3yh – cofrestrwch.