Mae tystiolaeth gymhellol yn y gwaith ymchwil o’r angen am ddewis ynglŷn â sut gall dinasyddion gael mynediad at wasanaethau. Er bod natur a difrifoldeb cyflwr iechyd unigolyn yn ffactor clir wrth benderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer gwneud a mynychu apwyntiadau, canfu ein gwaith ymchwil defnyddwyr fod agweddau eraill ar fywydau cleifion (lleoliad, opsiynau trafnidiaeth, galluoedd) yn bwysig iawn hefyd.
Clywsom sut oedd gan yr un unigolyn flaenoriaeth gref dros apwyntiad wyneb yn wyneb neu sgwrs o bell ar sail achos unigol.
Disgrifiodd un dinesydd a oedd yn gweithio oriau hir mewn swydd heriol deimlo’n flin yn y gorffennol oherwydd y bu’n rhaid iddo aros yn hir yn y practis am apwyntiadau wyneb yn wyneb:
Aeth yr unigolyn hwn ymlaen i ddisgrifio sut roedd angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r broses ar gyfer apwyntiadau ffôn, yn enwedig pan nad oedd y meddyg teulu’n ffonio’n ôl ar yr adeg ddisgwyliedig, a oedd yn golygu bod y claf wedi colli’r alwad ffôn pan ddaeth.
Ar ôl ffonio’n ôl, dywedwyd wrtho y byddai’n rhaid iddo aildrefnu’r apwyntiad “oherwydd dim ond unwaith y gall y meddyg ffonio”. Teimlai fod y dull hwn yn anhyblyg.
Disgrifiodd pobl eraill brofiadau tebyg; roedd un claf yr oedd ei ddealltwriaeth o gyflwr cronig difrifol – a goblygiadau ei adael heb ei drin yn ystod pyliau – yn golygu ei fod wedi pwyso am apwyntiad wyneb yn wyneb lle’r oedd rhaid rhoi triniaeth wyneb yn wyneb.
Heblaw yn ystod pyliau o’r fath, mynegodd yr un unigolyn flaenoriaeth gref am ymgynghoriadau ffôn â’i arbenigwr gofal eilaidd er mwyn osgoi taith flinedig a phoenus:
Ni chynigiwyd galwad fideo i’r unigolyn hwn ond dywedodd y byddai wedi ffafrio hynny ar draul opsiynau eraill ar gyfer apwyntiadau archwiliad arferol, “oherwydd bod yr ymgynghorydd yn edrych arnoch chi go iawn”.
Roedd o’r farn bod yr elfen weledol yn bwysig i gyfathrebu a helpu’r meddyg i asesu ei gyflwr.
Roedd eraill o’r farn bod cyfathrebu o bell nid yn unig yn dderbyniol ond yn amgenach mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys:
-
y rhai hynny a oedd yn cael trafferth gadael y tŷ oherwydd eu cyflyrau
-
y rhai hynny yr oedd cyfrifoldebau gofalu’n golygu ei bod yn anodd iddynt deithio
-
pan oedd mynediad i’r practis yn anodd
Daeth yn amlwg bod cyfleoedd ar gael i leihau’r ymdrech sy’n ofynnol i deithio i apwyntiadau wyneb yn wyneb trwy ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a fideo, ar yr amod bod practisiau’n ystyried amgylchiadau a dewisiadau unigol wrth gynnig yr opsiynau hyn i ddinasyddion.
Y brif ystyriaeth ym mhob achos oedd natur y rheswm dros gysylltu, ac roedd yn fwy tebygol y byddai angen i sefyllfaoedd “lle mae llawer yn y fantol” (unrhyw ddiagnosis posibl o newyddion gwael) gael apwyntiad wyneb yn wyneb.
Mae canfyddiadau ein gwaith ymchwil yn cefnogi’r argymhellion gan Healthwatch England, Pum egwyddor ar gyfer gofal iechyd digidol ar ôl COVID (Healthwatch England, 2021):
-
Cynnal modelau gofal traddodiadol ochr yn ochr â dulliau o bell a chynorthwyo pobl i ddewis y math mwyaf priodol o apwyntiad i fodloni eu hanghenion.
-
Buddsoddi mewn rhaglenni cymorth er mwyn rhoi’r sgiliau i gynifer o bobl â phosibl gael mynediad at ofal o bell.
-
Egluro hawliau cleifion ynglŷn â gofal o bell, gan sicrhau nad yw pobl sydd ag anghenion cymorth neu fynediad dan anfantais wrth gael mynediad at ofal o bell.
-
Galluogi practisiau i fod yn rhagweithiol ynglŷn â chynhwysiant trwy gofnodi anghenion cymorth pobl.
-
Ymrwymo i gynhwysiant digidol trwy drin y rhyngrwyd fel hawl gyffredinol.
Roedd rhai o’r practisiau y siaradom â nhw yn cydnabod yr angen am fodel cyfunol yn y dyfodol, sy’n rhoi dewis i ddinasyddion ynglŷn â sut maen nhw eisiau rhyngweithio â meddygfeydd.
Dywedodd rhai hefyd fod sianeli newydd fel ymgynghoriadau ar-lein wedi annog grwpiau o ddinasyddion i gysylltu na fyddent wedi gwneud hynny’n flaenorol: