1. Cyflwyniad
Gofynnodd Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) gynnal prosiect darganfod 12 wythnos.
Nod y prosiect oedd cynnal gwaith ymchwil i ddeall beth y dylai DSPP ei ystyried wrth ddatblygu gwasanaethau digidol ar gyfer y cyhoedd er mwyn gwella gofal sylfaenol fel eu bod:
- yn cefnogi anghenion defnyddwyr a hygyrchedd
- yn cefnogi polisïau a strategaethau cenedlaethol
- yn ddigon hyblyg i addasu i ddatblygiadau o ran modelau gofal yn y dyfodol
Sylwer: yr hyn a olygwn wrth ‘ofal sylfaenol’ yw gwasanaethau sy’n darparu’r pwynt cyswllt cyntaf yn y system gofal iechyd, gan weithredu fel ‘drws blaen’ y GIG. Mae gofal sylfaenol yn cynnwys ymarfer cyffredinol yn ogystal â gwasanaethau fferylliaeth gymunedol, deintyddol, ac optometreg (iechyd y llygaid).
Dyma grynodeb o’r adroddiad llawn a roddwyd i DSPP. Fe’i golygwyd i’w wneud yn fwy cryno ac i ddileu unrhyw wybodaeth a allai adnabod y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil.