Trosolwg

Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (neu Gen AI) yn faes sy'n esblygu'n gyflym ym maes deallusrwydd artiffisial.

Dyma sut mae Sefydliad Alan Turing yn diffinio Gen AI:

“Math o ddeallusrwydd artiffisial ydyw sy'n cynnwys creu data neu gynnwys newydd a gwreiddiol. Yn wahanol i fodelau AI traddodiadol, sy'n dibynnu ar setiau data ac algorithmau mawr i ddosbarthu neu ragweld canlyniadau, mae modelau AI cynhyrchiol yn dysgu patrymau a strwythur sylfaenol y data a chreu allbynnau newydd sy'n dynwared creadigrwydd dynol."

Dyma rai systemau Gen AI poblogaidd:

  • ChatGPT
  • Claude
  • Microsoft CoPilot
  • Google Gemini
  • Dall-E
  • Midjourney
     

Buddion i'r sector cyhoeddus

Gallai Deallusrwydd Artiffisial drawsnewid sut rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus drwy helpu i: 

  • ddarparu gwasanaethau yn gyflymach: dod o hyd i'r wybodaeth gywir yn gyflym i ateb cwestiynau defnyddwyr neu anfon e-byst uniongyrchol i'r adrannau cywir
  • lleihau llwyth gwaith staff: drafftio ymatebion e-bost arferol neu ysgrifennu cod cyfrifiadurol fel bod gan staff fwy o amser i ganolbwyntio ar dasgau pwysig
  • ymdrin â thasgau cymhleth: adolygu a chrynhoi llawer iawn o wybodaeth i helpu i wneud penderfyniadau
  • gwneud gwybodaeth yn fwy hygyrch: gwella darllenadwyedd a defnyddioldeb tudalennau gwe ac adroddiadau
  • gwneud tasgau arbenigol yn rhatach: crynhoi dogfennau gyda thermau technegol neu gyfieithu testunau i sawl iaith

Gall Gen AI helpu i:

  • symleiddio ac awtomeiddio rhai elfennau o ddarparu gwasanaethau
  • lleihau'r galw am wasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau
  • gwella bodlonrwydd y cyhoedd gyda gwasanaethau

Risgiau i'r sector cyhoeddus

Dyma'r heriau a'r risgiau a ddaw yn sgil offer a gwasanaethau deallusrwydd artiffisial i'r sector cyhoeddus:

  • dibynadwyedd: Gall Gen AI greu cynnwys a symleiddio tasgau ond nid yw'r canlyniadau bob amser yn gywir, a all arwain at wybodaeth anghywir
  • rhagfarn: Mae offer deallusrwydd artiffisial yn dysgu o setiau data mawr a all gynnwys rhagfarnau, gan arwain at driniaeth annheg neu wahaniaethu grwpiau penodol
  • preifatrwydd: Rhaid i systemau deallusrwydd artiffisial gydymffurfio â deddfau diogelu data a chynnal data pobl yn ddiogel
  • eiddo deallusol (IP): Mae offer deallusrwydd artiffisial yn creu cynnwys sy'n codi cwestiynau am berchnogaeth gyfreithiol a hawlfraint

Mae'n bwysig mynd i'r afael â'r heriau a'r risgiau hyn i sicrhau bod defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol, yn foesegol ac yn fuddiol. 

Gall fframweithiau, egwyddorion a chanllawiau cryf helpu'r sector cyhoeddus i lywio'r cymhlethdodau hyn, megis Gen AI Framework a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU.