Trosolwg
Mae gennym y potensial i newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.
Mae gan ymgorffori deallusrwydd artiffisial ar draws pob sector y potensial i greu miloedd o swyddi a sbarduno twf economaidd. Yn ôl un amcangyfrif, gallai cyfraniad AI i'r Deyrnas Unedig fod mor fawr â 5% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) erbyn 2030.
Mewn cyd-destun penodol i Gymru, gallai hyn fod yn gyfystyr â chyfanswm effaith o £7.9bn (9.8% o GDP) erbyn 2030, yn ôl PWC UK.
Darllenwch adroddiad PWC Prydain: The economic impact of artificial intelligence on the UK economy.
Mae gwahanol sefydliadau sector cyhoeddus yn y DU eisoes yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn llwyddiannus ar gyfer tasgau sy'n amrywio o ganfod twyll i ateb ymholiadau cwsmeriaid.
Mae'r defnyddiau posibl ar gyfer deallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus yn sylweddol, ond mae'n rhaid eu cydbwyso ag ystyriaethau moesegol, tegwch, diogelwch a phartneriaeth gymdeithasol.
Diffinio deallusrwydd artiffisial
Yn greiddiol iddo, mae AI yn faes ymchwil sy'n rhychwantu athroniaeth, rhesymeg, ystadegau, cyfrifiadureg, mathemateg, niwrowyddoniaeth, ieithyddiaeth, seicoleg wybyddol ac economeg.
Gellir disgrifio deallusrwydd artiffisial fel modd o ddefnyddio technoleg ddigidol i greu systemau all wneud tasgau y credir yn gyffredin eu bod yn gofyn am ddeallusrwydd dynol.
Mwy neu lai, mae tri math o AI:
- canfyddiad: deall neu ddehongli sefyllfa, canfod neu synhwyro.
- rhagfynegi: dadansoddi sefyllfa, rhagweld canlyniad.
- creu: defnyddio AI i greu cynnwys newydd.
Mae AI yn newid yn gyson, ond yn gyffredinol mae'n:
- cynnwys peiriannau gan ddefnyddio ystadegau i ddod o hyd i batrymau mewn symiau mawr o ddata
- cyflawni tasgau ailadroddus gyda data heb yr angen am arweiniad dynol cyson
Deall dysgu peirianyddol
Is-set o AI yw dysgu peirianyddol: datblygu systemau digidol sy'n gwella perfformiad tasg benodol dros amser trwy brofiad.
Dysgu peirianyddol yw'r math o AI a ddefnyddir amlaf, ac mae ei gyfraniad at arloesiadau yn cynnwys ceir hunan-yrru, adnabod lleferydd a chyfieithu peirianyddol.
Mae datblygiadau diweddar mewn dysgu peirianyddol o ganlyniad i:
- gwelliannau i algorithmau
- cynnydd mewn cyllid
- cynnydd enfawr yn y swm o ddata a grëwyd ac a gaiff ei storio gan systemau digidol
- cynyddu mynediad at bŵer cyfrifiadurol ac ehangu cyfrifiadura cwmwl
Gall dysgu peirianyddol fod yn:
- fath o ddysgu dan oruchwyliaeth sy'n caniatáu i fodel deallusrwydd artiffisial ddysgu o ddata hyfforddi wedi'i labelu, er enghraifft hyfforddi model deallusrwydd artiffisial i helpu i dagio cynnwys ar GOV.UK
- dysgu heb oruchwyliaeth sy'n hyfforddi algorithm deallusrwydd artiffisial i ddefnyddio gwybodaeth heb ei labelu a heb ei ddosbarthu
- gwella dysgu wrth gefn sy'n galluogi model deallusrwydd artiffisial i ddysgu wrth gyflawni tasg
Sut all AI helpu
Gall AI fod o fudd i'r sector cyhoeddus mewn sawl ffordd. Er enghraifft, gall:
- ddarparu gwybodaeth fwy cywir, rhagolygon a rhagfynegiadau sy'n arwain at ganlyniadau gwell - er enghraifft, diagnosis meddygol mwy cywir
- creu effaith gymdeithasol gadarnhaol trwy ddarparu atebion ar gyfer rhai o broblemau cymdeithasol mwyaf heriol y byd
- efelychu systemau cymhleth i arbrofi gyda gwahanol opsiynau polisi a sylwi ar ganlyniadau anfwriadol cyn ymrwymo i fesur
- gwella gwasanaethau cyhoeddus - er enghraifft, personoli gwasanaethau cyhoeddus i addasu i amgylchiadau unigol
- awtomeiddio tasgau syml, tasgau ymarferol sy'n rhyddhau staff i wneud gwaith mwy diddorol
Beth all AI ei wneud
Nid yw AI yn ddatrysiad cyffredin ac ni all ddatrys pob problem. Mae cymwysiadau cyfredol AI yn canolbwyntio ar gyflawni tasgau nad yw ei diffiniad yn un eang iawn.
Yn gyffredinol, ni all AI:
- fod yn greadigol
- perfformio'n dda heb lawer o ddata perthnasol, o ansawdd uchel
- mae angen cyd-destun ychwanegol os nad yw'r wybodaeth ar gael yn y data
Hyd yn oed os gall AI eich helpu i ddiwallu rhai anghenion defnyddwyr, gall atebion symlach fod yn fwy effeithiol ac yn llai costus. Er enghraifft, gall technoleg adnabod cymeriad optegol echdynnu gwybodaeth o sganiau o basbortau.
Fodd bynnag, gallai ffurflen ddigidol sy'n gofyn am fewnbwn â llaw fod yn fwy cywir, yn gyflymach i'w hadeiladu, ac yn rhatach. Bydd angen i chi ymchwilio i atebion technoleg aeddfed amgen yn drylwyr i wirio a yw hyn yn wir.
Gwiriwch y canllawiau ar ddewis technoleg briodol yn GOV.UK.
Ystyriaethau ar gyfer defnyddio AI i ddiwallu anghenion defnyddwyr
Gyda phrosiect Deallusrwydd Artiffisial, ystyriwch ffactorau gwahanol gan gynnwys Moeseg a diogelwch deallusrwydd artiffisial, pryderon cyfreithiol, gweinyddol a Chymraeg.
Dyma rai ffactorau i'w hystyried:
- ansawdd data: mae llwyddiant eich prosiect deallusrwydd artiffisial yn dibynnu ar ansawdd eich data [1]
- tegwch: a yw'r modelau wedi'u hyfforddi a'u profi ar setiau data perthnasol, cywir a chyffredinol ac yw'r system AI a ddefnyddir gan ddefnyddwyr sydd wedi'u hyfforddi i'w gweithredu yn gyfrifol a heb ragfarn
- atebolrwydd: ystyried pwy sy'n gyfrifol am bob elfen o allbwn y model a sut y bydd dylunwyr a gweithredwyr systemau deallusrwydd artiffisial yn cael eu dal yn atebol
- preifatrwydd: cydymffurfio â pholisïau data priodol, er enghraifft y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018
- eglurder a thryloywder - fel y gall y rhanddeiliaid yr effeithir arnynt wybod sut y daeth y model deallusrwydd artiffisial i'w benderfyniad
- costau: ystyried faint y bydd yn ei gostio i adeiladu, rhedeg a chynnal seilwaith deallusrwydd artiffisial, hyfforddi ac addysgu staff ac a allai'r gwaith i roi prosiect deallusrwydd artiffisial ar waith fod yn well nag unrhyw arbedion posibl
- hyfforddiant: sicrhau bod y defnyddiwr terfynol yn deall cyfyngiadau'r prosiect - a sut i'w ddefnyddio'n effeithiol - mae hyn yn hanfodol i sicrhau llwyddiant eich prosiect
Cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data
Rhaid i'ch system deallusrwydd artiffisial gydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018), gan gynnwys y pwyntiau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau awtomataidd. Trafodwch hyn gyda chynghorwyr cyfreithiol.
Mae penderfyniadau awtomataidd yn y cyd-destun hwn yn benderfyniadau a wneir heb ymyrraeth ddynol, sy'n cael effeithiau cyfreithiol neu effeithiau arwyddocaol tebyg ar ‘wrthrychau data'.
Er enghraifft, penderfyniad ar-lein i ddyfarnu benthyciad, neu brawf gallu recriwtio sy'n defnyddio algorithmau wedi'u rhaglennu ymlaen llaw.
Os ydych am ddefnyddio prosesau awtomataidd i wneud penderfyniadau gydag effeithiau cyfreithiol neu effeithiau sylweddol tebyg ar unigolion, rhaid i chi ddilyn y mesurau diogelu a ddiffinnir yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod yn darparu defnyddwyr sydd a:
- gwybodaeth benodol a hygyrch am y broses gwneud penderfyniadau awtomataidd
- ffordd syml o gael ymyrraeth ddynol i adolygu, ac o bosibl newid y penderfyniad
Sicrhewch nad yw eich defnydd o wneud penderfyniadau awtomataidd yn gwrthdaro ag unrhyw gyfreithiau neu reoliadau eraill.
Ystyried y penderfyniad terfynol ac unrhyw benderfyniadau awtomataidd a effeithiodd yn sylweddol ar y broses o wneud penderfyniadau.