Ein gweledigaeth
Gwasanaethau cyhoeddus digidol sydd wedi'u dylunio gan ystyried y bobl sy'n eu defnyddio ac sy'n syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.
Ein gwerthoedd
Rydyn ni'n ymdrechu i fod yn feiddgar, yn gydweithredol, yn dryloyw ac yn optimistaidd, ac i gadw pobl wrth galon popeth a wnawn.
Governance and reporting
Ein stratega
Mae ein cynllun strategol 3 blynedd (2023 i 2026) yn nodi 6 blaenoriaeth i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru:
- Dylanwadu ar yr agenda ddigidol ar gyfer Cymru
- Gweithio gyda sefydliadau i wneud pethau'n wahanol
- Tyfu gallu a sgiliau modern (digidol, data a thechnoleg) yn sector cyhoeddus Cymru
- Gwreiddio safonau a chanllawiau
- Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau a rennir
- Rhedeg CDPS gwych
Adrodd ar lywodraethiant
Rydym wedi ymrwymo i lywodraethu da, tryloywder ac atebolrwydd wrth ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru. Am y rheswm yma, rydym yn cyhoeddi:
- adroddiadau sy'n dangos ein cynnydd, ein heffaith, a'n cyflawniadau allweddol
- cofnodion y bwrdd ac adroddiadau'r pwyllgor sy'n manylu ar drafodaethau a phenderfyniadau allweddol