Chwe mis i mewn i'w rôl – gyda Harriet Green – fel Prif Weithredwyr ar y cyd CDPS, mae Myra Hunt yn gosod yr heriau trawsnewidiol i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a lle y gall y sefydliad hwn wneud gwahaniaeth

17 Awst 2022

Cyd-brif swyddogion gweithredol y CDPS, Myra Hunt a Harriet Green

I roi'r cwestiwn uchod yn fwy manwl, sut allwn ni yn y sector cyhoeddus newid y ffordd rydyn ni'n meddwl, yn gweithio ac yn gweithredu fel bod ein gwasanaethau yn gweithio'n well i'r bobl sy'n eu defnyddio? 

Ychydig dros 6 mis yn ôl, cefais rôl, ynghyd â'm partner rhannu swydd Harriet, Prif Weithredwyr ar y Cyd yn yr hyn sydd, mae'n debyg, yn sefydliad unigryw, sef y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). 

Mae CDPS yn gorff newydd sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth - corff hyd braich gafodd ei greu er mwyn cyflymu newid beiddgar a pharhaol mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Rydym yn gwneud hynny drwy gynnal prosiectau catalydd, darparu hyfforddiant, rhannu gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth â thimau'r sector cyhoeddus. 

Gwasanaeth cynhwysfawr

Dylai'r gwasanaeth cynhwysfawr hwn olygu bod ein partneriaid yn dod yn sefydliadau digidol mwy aeddfed. Maen nhw'n dod yn fwy abl i ddarparu polisïau, sy'n cael eu pweru gan dechnolegau digidol a ffyrdd o weithio – gan arwain at well gwasanaethau cyhoeddus.

Dyma fy rôl Prif Weithredwr gyntaf. Mae dechrau swydd fel Prif Weithredwr yn frawychus, yn heriol, yn ddwys ac yn hwyl. Rydym yn sefydliad bychan (gyda grant o £4.9m y flwyddyn, sy'n fach o ran cyllideb y llywodraeth) a'n cylch gwaith yw gweithio ledled Cymru.

Rydym wedi gweithio'n galed i adnabod ein partneriaid posibl pwysicaf ac i wneud ein portffolio cyflenwi yn fwy cydlynol a strategol, wedi’u cefnogi gan gynnig hyfforddiant gyda mwy o ffocws. Ac rydym wedi defnyddio'n Adolygiad Tirwedd Digidol Cymru gyfan i adnabod yr ardaloedd sydd â'r angen mwyaf – a’r potensial – ar gyfer datblygu digidol ac i ddarparu tystiolaeth ar gyfer ein dewisiadau strategol.  

Ein heriau mwyaf

Roedd angen i ni ynysu'r materion mawr a oedd yn dal datblygiadau cyflym o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ôl, lle gallai CDPS gyfrannu. Drwy sgyrsiau gyda phrif swyddogion digidol a rhanddeiliaid eraill, a defnyddio ymchwil o'r Adolygiad Tirwedd, mae CDPS wedi adnabod y prif heriau hyn ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru:

Arweinyddion uwch dîm CDPS yn cefnogi Myra a Harriet fel Prif Weithredwyr ar y cyd
  • sgiliau a staffio - mae gennym heriau wrth adeiladu gweithlu digidol, data a thechnoleg 
  • technoleg a phlatfformau a rennir: mae angen i ni uwchraddio ein platfformau a rennir a dechrau darparu platfformau newydd, i gefnogi gwasanaethau – gan ganiatáu i bobl wneud taliadau'n fwy effeithiol, er enghraifft 
  • symud i'r 'cwmwl' digidol - mae gennym seilwaith ar y safle o hyd sydd angen ei foderneiddio 
  • cyhoeddi cynnwys – nid yw ein cynnwys bob amser yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, ac mae angen i ni wella ein cynnwys digidol yn Gymraeg yn arbennig 
  • ffurflenni – rydym yn dal i gasglu data gan ddefnyddio PDFs y mae'n rhaid eu hargraffu wedyn, sy’n gwastraffu amser ac arian pobl 
  • gweithio’n Ystwyth – mae angen i ni ddefnyddio mwy o arferion gweithio Ystwyth a chanolbwyntio’n fwy ar y defnyddiwr 
  • caffael – mae angen i ni wneud prynu cynhyrchion a gwasanaethau digidol yn fwy Ystwyth, tryloyw ac yn hawdd i'w wneud, i gefnogi cyflenwyr digidol o Gymru 
  • ymarferoldeb a rennir – mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd gwell o ymgysylltu ar-lein â defnyddwyr gwasanaeth: sut mae pobl yn mewngofnodi a sefydlu eu hunaniaeth ar-lein, sut rydym yn rheoli achosion pobl ar-lein a pha fath o gyfrifon sydd eu hangen ar bobl i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud hyn yn hawdd, ond yn ddiogel 
  • ariannu a mesur - mae angen i ni wella ein modelau cyllido er mwyn caniatáu gwell darpariaeth, gan symud i ffwrdd o gyllido prosiectau i ariannu gwelliant parhaus, a mesur perfformiad gwasanaethau'n well 
  • seiber a tech net sero – mae angen i ni wella ein darpariaeth diogelwch digidol ac arwain ar sut y gall technoleg helpu Cymru i gyrraedd dim allyriadau nwyon tŷ gwydr 

Gyda rhanddeiliaid, rydym yn cynllunio lle gall CDPS wneud y gwahaniaeth mwyaf wrth ymateb i'r heriau hyn. O ran ein gweithlu ein hunain, mae CDPS wedi ymrwymo i recriwtio yng Nghymru a denu recriwtiaid posib yn ôl i Gymru.

Drwy gydol ein 6 mis cyntaf, mae Harriet a minnau wedi cael cefnogaeth gan uwch dîm arwain CDPS. Erbyn hyn mae gan CDPS fwrdd parhaol, gan helpu i gryfhau ein llywodraethu. Rydyn ni eisiau bod yn batrwm o ran sut rydyn ni'n gwneud pethau – yn y ffordd mae CDPS yn rhedeg fel busnes.  

Cyfnerthu'n gyflym, gan ganolbwyntio'n sydyn

Mae CDPS yn tyfu i fyny'n gyflym. Rydyn ni'n cyfnerthu'n gyflym. Rydyn ni'n canolbwyntio'n sydyn ar lle bydd ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni'n lwcus y gallwn ni ddysgu gan gyrff tebyg fel Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth ac o genhedloedd bach eraill sy'n ysbrydoli ledled y byd. 

Ochr yn ochr â'n rhestr o heriau eang, yr hydref hwn byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr y GIG, Mae tîm digidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (ar system darganfod rheolaeth gwybodaeth ysgolion) ac Awdurdod Cyllid Cymru. Byddwn yn rhoi tystiolaeth arbenigol i Brif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru i friffio cabinet Llywodraeth Cymru ar yr heriau digidol rydym wedi eu hadnabod.

Bydd CDPS yn parhau i weithio yn agored fel eich bod yn gwybod beth rydym yn ei wneud ac yn gallu rhyngweithio â ni. Gall CDPS wneud gwahaniaeth.