23 Mehefin 2021
Yr wythnos ddiwethaf oedd yr Wythnos Arweinwyr Digidol, sef digwyddiad yn canolbwyntio ar weddnewid digidol gyda 300 o siaradwyr a 200 o ddigwyddiadau ar wahân a oedd â’r nod o rannu arfer da. Mae rhannu gwybodaeth a datblygu gallu yn rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, felly roedden ni’n falch iawn o gymryd rhan yn yr wythnos a rhannu rhywfaint o’n gwaith. Rhag ofn eich bod wedi’u colli, dyma drosolwg byr o’r sesiynau y cymeron ni ran ynddynt a’r dolenni i wylio recordiad ohonynt.
Y digwyddiad lansio
Dechreuodd yr wythnos gyda digwyddiad lansio pryd y siaradodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, am yr angen i arweinwyr feddwl yn wahanol am ddigidol, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant a newid. Soniodd Lee am rôl y Ganolfan a rhannodd ei ddiffiniad o ddigidol: ‘I mi, mae’n ymwneud â rhoi’r defnyddiwr yn y cano... mae anghenion defnyddwyr wrth wraidd y Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru. Mae mynd i’r afael â hen broblemau mewn ffordd newydd yn ganolog i’n strategaeth ddigidol’.
Gwyliwch ddigwyddiad lansio’r wythnos Arweinwyr Digidol
Arwain yn y Llywodraeth mewn Oes Ddigidol
Ymunodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Sally Meecham, a Tom Read, Prif Weithredwr Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth, ar gyfer sesiwn ar Arwain yn y Llywodraeth mewn Oes Ddigidol. Siaradodd Sally am bwyslais y Ganolfan a sut rydyn ni’n gweithio ar y cyd â sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i wella gwasanaethau a datblygu gallu.
Gwyliwch y sesiwn Arwain yn y Llywodraeth mewn Oes Ddigidol
Canolbwyntio ar ddarparu: cydweithio, defnyddwyr a ffyrdd newydd o weithio
Ddydd Gwener, fe gynhalion ni sesiwn am ein prosiect arddangos cyntaf, sef Mynediad at Ofal Cymdeithasol i Oedolion. Fe glywson ni gan rai o aelodau’r tîm, gan gynnwys cydweithwyr o Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, am gydweithio trwy’r cam darganfod hyd at y cam beta presennol. Fe wnaethon nhw rannu’r prif bwyntiau a ddysgwyd, sut beth fu’r profiad a beth sydd nesaf.
Gwyliwch y sesiwn Canolbwyntio ar Ddarparu
Roedd yn wych cael cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n canolbwyntio ar ddigidol a rhannu gwybodaeth ac i weld cynifer o unigolion a sefydliadau’n cymryd rhan a rhannu eu gwybodaeth a’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu.
Os colloch chi nhw, mae’r holl sesiynau o’r wythnos ar gael i ddal i fyny ar y safle Arweinwyr Digidol. Os hoffech gael gwybod y diweddaraf am ein gwaith, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr pythefnosol.