Rydym yn aml yn clywed am dri math o ddylunio:
- Dylunio rhyngweithio
- Dylunio profiad y defnyddwyr (UX).
- Dylunio rhyngwyneb defnyddwyr (UI)
Dylunio rhyngweithio
Yn llywodraeth ganolog y DU, mae rôl swydd o'r enw Dylunydd Rhyngweithio. Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn diffinio dyluniad rhyngweithio fel:
Wrth ddylunio gwasanaethau i ganolbwyntio ar y defnyddiwr, mae dylunio rhyngweithio yn golygu gwybod pethau fel:
- a yw eich defnyddwyr yn disgwyl gorfod sgrolio, yn hytrach na llithro trwy restr
- deall lle mae pobl yn disgwyl clicio ar gyfer y cam nesaf mewn taith
Yn syml, swydd dylunydd rhyngweithio yw helpu person ar hyd ei daith trwy sicrhau bod y penderfyniadau dylunio yn reddfol ac nad ydynt yn gwneud i'r defnyddiwr weithio'n rhy galed.
Mae llawer o debygrwydd rhwng dylunio rhyngweithio a dylunio UX.
Darllenwch fwy am ddylunio rhyngweithio
- A full guide to interaction design gan Just in Mind
- Interaction design gan Nielsen Norman Group
- Principles of interaction design gan Ask TOG
Profiad y defnyddwyr (UX)
Mae’r gwyddonydd gwybyddol, Don Norman, yn derbyn clod am fathu’r term, “profiad defnyddiwr” yn ôl yn y 1990au cynnar, pan oedd yn gweithio i Apple ac yn ei ddiffinio fel:
Dysgwch fwy am ddylunio profiad y defnyddwyr (UX) ar wefan y Sefydliad Dylunio Rhyngweithiol.
Rhyngwyneb defnyddwyr (UI)
Mae rhyngwyneb defnyddwyr (UI), yn cyfeirio at yr holl rannau o gynnyrch neu wasanaeth y bydd defnyddiwr yn rhyngweithio â nhw.
Cymharu UX ac UI
Yn aml, defnyddir UX ac UI yn gyfnewidiol. Ond beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt?
Ffordd syml o gymharu UX ac UI yw cyfeirio at UX fel y ‘pam’, a’r UI fel y ‘sut’.
Dysgwch fwy am y gwahaniaethau rhwng UX ac UI ar Nielsen Norman Group.