Cynnwys
Heriau
Ar hyn o bryd nid oes gennym ddealltwriaeth gyffredin glir o sut y gall digidol a thechnoleg fod yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon a bodloni targed sero-net felly rhan o'r hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud yw edrych ar yr hyn sy'n dda.
Nid ydym yn credu bod gweision cyhoeddus yng Nghymru wedi cael y gefnogaeth gywir i fod yn gweithredu'r arfer gorau hwnnw.
Syniadau ar gyfer dylunio gwasanaethau digidol sero-net
- Holi am y canlyniadau
- Deall ôl-troed carbon eich gwasanaeth digidol
- Byddwch yn dryloyw gyda'ch defnyddwyr
- Archwilio a mireinio cydrannau eich gwasanaeth digidol
- Ymestyn eich egwyddorion hygyrchedd
- Cyfieithu dyluniad UX da ar gyfer yr amgylchedd
- Craffu ar eich gwesteia gwe
- Alinio gofynion strategol ag ystyriaethau cynaliadwyedd
- Meithrin sgiliau meddwl system fewnol
- Cyd-greu atebion ar gyfer datblygu gwasanaethau digidol sero-net
Mewn gweminar ym mis Mehefin 2022, o'r enw 'Deall y cysylltiad rhwng technoleg, digidol a'r amgylchedd', gwnaethom ehangu ar y 10 syniad hyn.