Sut i wneud profion amlygu
I brofi’r cynnwys, rydych chi’n rhoi darn o gynnwys i grŵp o ddefnyddwyr ac yn gofyn iddyn nhw amlygu’r testun.
Gallwch ddefnyddio amlygwr gwahanol liwiau i ddeall gwahanol emosiynau, er enghraifft:
- gellid defnyddio glas i danlinellu cynnwys sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hyderus am y gwasanaeth
- gellid defnyddio pinc i ddangos geiriau neu frawddegau a oedd yn ddryslyd neu’n gamarweiniol
Pan fyddwch wedi casglu’r holl ymatebion, bydd gennych syniad clir o sut mae’r cynnwys wedi gwneud i bobl deimlo a dylai fod gennych rai themâu a meysydd clir i weithio arnynt.
Teclynnau
Mae modd gwneud y math yma o brofi ar-lein gan ddefnyddio teclyn fel Microsoft Word neu Google Docs.
Mae hefyd yn effeithiol pan mae’r dudalen wedi ei hargraffu, ac mae pobl yn cwblhau’r dasg yn ffisegol.