Gall cymuned gweithlebod yn fewnol neu’n fwy eang, ond, ymddengys fod gan bob grŵp ychydig yn gyffredin
23 Awst 2022
Rydym ni gyd yn rhan o gymuned, hyd yn oed os nad ydym yn sylweddoli hynny. Meddyliwch am eich cymdogaeth, neu efallai eich bod yn gefnogwr o dîm chwaraeon. Efallai eich bod mewn clwb o ryw fath, neu rydych chi’n galw heibio fforymau ar y rhyngrwyd yn aml. Mae’r rhain i gyd yn gymunedau.
Ond beth yn union yw cymuned? Mae Emily Webber, arweinydd mewn cymunedau digidol ac Agile neu Ystwyth, yn ei ddisgrifio’n syml fel “[grŵp] o bobl sydd â chysylltiad cymdeithasol ystyrlon”. Mae hynny'n sicr yn wir am y grwpiau uchod. Aiff Emily ymlaen i drafod yr ymdeimlad o berthyn gall cymuned ei ddarparu, ac am y ffordd mae aelodau wedi ymrwymo i’w gilydd. Mae’n siŵr bod hyn yn teimlo’n eithaf cyfarwydd - meddyliwch eto am eich cymdogaeth neu glwb, a’ch gallu i ddibynnu ar y bobl sy’n ffurfio’r cymunedau hynny, am gymorth.
Felly pam nad ydym ni’n meddwl yn fwy am y gweithle wrth ystyried cymunedau?
Cymunedau gweithle
Un math o gymuned yn y gweithle yw ‘cymuned ymarfer’, lle mae’r cysylltiad sy’n dod â phobl ynghyd yn ymwneud â’u proffesiwn. Mae’r cymunedau hyn yn tueddu bod yn anffurfiol, y tu allan i’r strwythur rheoli, ond yn gallu darparu aelodau â chyfleoedd gwych ar gyfer cymorth a dysgu ar y cyd - yn union fel mathau eraill o gymunedau.
Yma’n CDPS, rydym wedi cynnal gweithdai’n ddiweddar ar yr hyn y byddai rheolwyr cyflenwi a rheolwyr cynnyrch eu heisiau allan o gymuned. Nid yw’n syndod bod pobl eisiau i’r gymuned weithredu fel rhwydwaith cymorth a lle i ddysgu.
O gymharu â chymunedau eraill mae CDPS wedi’u sefydlu, rydym yn dechrau’n fach ac yn fewnol gyda’r gymuned gyflenwi. Mae gennym ‘coffi cyflym’ wythnosol lle rydym yn trafod y pethau da a’r heriau rydym wedi dod ar eu traws yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Hefyd, mae gennym sesiwn misol, sef y “gofod diogel”, pan fyddwn yn treiddio’n ddyfnach mewn i broblem, rhoi cynnig ar weithdy neu dechneg hwyluso newydd, neu gael siaradwr allanol.
Gwella fesul dipyn
Rydym yn cynnal trafodaeth ar-lein fywiog hefyd, lle rydym yn cynnig cymorth i’n gilydd er mwyn gwneud y pethau mawr gweithio’n well. Mae cael y trafodaethau preifat cyson yma wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Ar ochr y cynnyrch, rydym wedi awgrymu dull tebyg – er mai bwriad y gymuned hon, o’r cychwyn cyntaf, yw bod yn agored i bob rheolwr cynnyrch yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid oes gennym lawer o reolwyr cynnyrch yn CDPS, ac rydym yn amau bod hynny’n wir mewn sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru. Felly rydym yn gwahodd cydweithwyr mewn adrannau llywodraeth y DU, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thŷ’r Cwmnïau, i gymryd rhan hefyd.
Y mesur o lwyddiant yma yw bod y cymunedau’n cynnal, bod pobl yn cael gwerth, ac nad oes angen CDPS fod yn ‘berchen’ arnynt. Mae Ystwyth yn pregethu hunan-drefnu – os yw aelodau’n teimlo bod ganddyn nhw lais yn y gymuned a’i fod yn diwallu eu hanghenion am gymorth a dysgu, yna rydyn ni ar y trywydd cywir.
I ddarganfod mwy am ein cymunedau, cysylltwch â Darren McCormac, arweinydd y gymuned gyflenwi CDPS.