Nod y prosiect

Dilynodd y prosiect hwn drywydd penodol yn sgil Adolygiad Tirwedd Ddigidol: pa mor hygyrch yw gwasanaethau cyhoeddus digidol i holl drigolion Cymru.

Bwriad y prosiect yma oedd cynhyrchu cyfeiriadur gweithgaredd cynhwysiant digidol ar draws Cymru. Byddai’r cyfeiriadur yn rhoi’r cyfle i ni adnabod gweithgareddau cynhwysiant eraill, a darganfod os ellir eu cydgysylltu.

Datgelodd dadansoddiad daearyddol a demograffig o’r weithgaredd sut mae rhanbarthau Cymreig yn gwahaniaethu o ran y cyfanswm gwariwyd ar gynhwysiant digidol, ac os yr ydynt yn targedu gwahanol grwpiau o bobl.

Y broblem i'w datrys

Bydd trawsnewid digidol yng Nghymru yn golygu bydd rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl.

Mae strategaeth ddigidol Cymru yn diffinio cynhwysiant digidol fel “rhoi'r cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i bobl ymgysylltu â’r byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion”.

Yn wir, mae’r nod yma’n rhan o lythyr cylch gwaith y CDPS ac yn ganolog i’r rheswm dros ein bodolaeth.

Partneriaid

Prif randdeiliaid:

  • Dyfodol Llewyrchus Llywodraeth Cymru
  • Bwrdd Rhaglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru

Bu’r prosiect hefyd gweithio’n agos gyda Chymunedau Digidol Cymru a Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.

Comisiynwyd y gwaith hwn gan Swyddfa Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru.

Crynhoi'r gwaith

Buom yn mapio gweithgareddau cynhwysiant digidol ar draws bob ardal yng Nghymru, gan greu hyd a lled y prosiect:

  • band eang
  • data
  • dyfeisiau
  • hygyrchedd, gan gynnwys fforddiadwyedd
  • sgiliau digidol sylfaenol
  • hyder
  • cymhelliant

Yna fe wnaethom greu un cyfeiriadur yn cynnwys gweithgareddau cynhwysiant digidol yng Nghymru o fewn cwmpas y prosiect, dros y 2 flynedd ddiwethaf.

Roedd allbynnau prosiectau eraill yn cynnwys:

  • map cynhwysiant digidol, yn dangos nifer y bobl a dargedwyd ar gyfer gweithgareddau cynhwysiant digidol, y gwariant cysylltiedig, ym mhob rhanbarth yng Nghymru
  • adroddiad yn ymdrin â methodoleg y prosiect, dadansoddiad o’r data a gasglwyd a chymaryddion rhyngwladol