Nod y prosiect

Darganfod mwy am anghenion gweithwyr sector cyhoeddus - yn ogystal â rhai preifat - sydd eisiau archebu lle mewn swyddfeydd gweithio pell, a elwir fel arall yn ‘hybiau’, mewn modd syml a rhwydd.

Y broblem i'w datrys

As well as just helping people to find suitable places to work remotely, we expected the service would foster the kind of knowledge-sharing that goes on when people work in the same location.

Fodd bynnag, yn ogystal â helpu pobl i ddod o hyd i leoedd addas i weithio o bell, roeddem yn disgwyl y byddai'r gwasanaeth yn meithrin y math o rannu gwybodaeth sy'n digwydd pan fydd pobl yn gweithio yn yr un lleoliad.

Partneriaid

Tîm Gweithio o bell Lywodraeth Cymru oedd ein partner yn ystod y darganfyddiad.

Crynhoi'r gwaith

Gwnaeth cyfnod darganfod (ymchwilio) y prosiect Ystwyth hwn archwilio anghenion defnyddiwr ar gyfer y gwasanaeth arfaethedig.

Gwnaethom gyfweld â defnyddwyr hybiau posib a staff cefn swyddfa'r canolfannau gweithio o bell.

Edrychwyd dros y cyfweliadau yn fanwl, ac ar anghenion defnyddwyr ar gyfer y gwasanaeth gweithio o bell.