Nod y prosiect

Roedd Dysgu trwy greu yn: 

  • lle diogel i ddysgu a bod yn greadigol  
  • byddwch chi'n datrys problemau sy'n berthnasol i'ch sefydliad  
  • dull ymarferol lle byddwch chi'n dysgu drwy greu 
  • byddwch yn gweithio yn yr agored i rannu'r hyn rydych wedi'i ddysgu a'i wneud, ac yn derbyn adborth cyflym  
  • byddwch yn dylunio i gyrraedd y foment 'aha!', p'un a ydynt yn ddatblygiadau bach neu'n gamgymeriadau i ddysgu wrthynt 

Rydyn ni am i bobl bod yn hyderus wrth feddwl mewn ffordd 'ddigidol' ac i greu pethau yn yr agored.  

Y broblem i'w datrys

Yn seiliedig ar ymchwil defnyddwyr, rydym yn ymwybodol bod angen help ar bobl i wybod lle i ddechrau o ran defnyddio gwybodaeth ddigidol newydd mewn ffordd ymarferol yn eu timau.  

Mae Dysgu trwy greu yn rhoi cyfle i bobl fod yn rhan o sesiynau labordy trochol ac ymarferol, lle mae pobl yn dysgu sgiliau digidol ac yn gwneud cynnyrch a gwasanaethau digidol – yn agored, go iawn. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddysgu am rywbeth newydd yw ei brofi eich hun.    

Drwy roi cynnig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn seiliedig ar arbrofi go iawn, gallwch droi gwybodaeth ddamcaniaethol yn sgiliau ymarferol.    

Partneriaid

Fe wnaethon ni gynnal y prosiect gyda chydweithiwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru.

Crynhoi'r gwaith

CDPS sy’n noddi Dysgu trwy greu. Mae wedi gweithio ochr yn ochr â'r tîm Sgiliau a Gallu i greu labordai a fydd yn ategu'r cyrsiau hyfforddi a sesiynau cinio a dysgu y maent yn eu rhedeg, fel rhan o Gampws Digidol

Mae'r format labordy digidol sy'n rhoi’r rhyddid i bobl feddwl yn wahanol. Bydd y rhai sy'm cymryd rhan yn

  • dysgu sut i ddatrys problemau mewn grŵp, heb y cyfyngiadau a allai fodoli yn eich sefydliad
  • darganfod sut mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn helpu adeiladu gwasanaethau gwell

Mae'r rhain yn sesiynau trochi ac ymarferol, i ddysgu sgiliau digidol a chreu cynnyrch a gwasanaethau digidol - yn yr agored, go iawn. 

Darllenwch fwy am y prosiect yn ogystal â'r nodiadau wythnosol a gwefan Dysgu trwy greu