Nodau'r prosiect

Nod y prosiect yw deall anghenion a safbwyntiau'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, rheoli a derbyn meddyginiaethau mewn ysbytai (gofal eilaidd) yng Nghymru.

Drwy’r darganfyddiad hwn, rydym yn gobeithio dangos i fyrddau iechyd a thimau gweithredu lleol y risgiau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â symud i ePMA mewn ysbytai, fel y gallant baratoi’n ddiogel, dewis yr opsiynau gorau a gweithredu yn y ffordd sy’n rhoi’r budd mwyaf.

Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw:

  • deall taith defnyddiwr o un pen i’r llall ar gyfer gwasanaethau presgripsiwn electronig
  • defnyddio dulliau digidol i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaeth yng Nghymru’n haws, yn ddiogel, yn fwy effeithiol ac effeithlon 
Hoffwn sicrhau bod gwasanaethau yn darparu’r canlyniadau gorau i ddinasyddion, a’u bod wedi’u dylunio o amgylch sut mae nhw a darparwyr gwasanaeth eisiau defnyddio a rheoli’r gwasanaethau hynny…

…rydym yn gwybod nad yw pawb yn gallu, neu eisiau, defnyddio gwasanaethau ar-lein; felly, mae sicrhau bod yr ateb yn ddigidol gynhwysol yn flaenoriaeth allweddol i’r rhaglen.
Eluned Morgan AS, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y broblem i'w datrys

Mae disgwyl i bob bwrdd iechyd yng Nghymru yn symud i bresgripsiynu digidol a gweinyddu meddyginiaethau. Mi fydd hefyd disgwyl eu bod yn gaffael ac yn gweithredu presgripsiynu electronig, yn ogystal â gweinyddu meddyginiaethau (ePMA) fel rhan o’r newid hwn.  

Waeth beth fo’r dewis o system ePMA, bydd hyn yn golygu newidiadau i nifer o brosesau, tasgau, a rolau o bosib, ar draws ragnodi, rhoi meddyginiaethau, rheoli meddyginiaethau, rhyddhau, a’r hyn sy’n digwydd wedi hynny. Mi fydd yn digwydd ar draws wahanol gwefanau a lleoliadau gofal arbenigol.  

Daw hyn â chyfleoedd newydd i wella diogelwch, yn ogystal â gwella profiad cleifion a chlinigwyr. Ond mae yna hefyd gyfyngiadau, anghenion defnyddwyr newydd, ‘realiti blêr’ ffyrdd gweithio o ddydd i ddydd, a systemau a phrosesau presennol, rhwystrau ac anfanteision i’w deall.

Partneriaid

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw ein partneriaid yn y darganfyddiad.

Mae CDPS yn gweithio gydag arbenigwyr pwnc o'r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol, ac yn cynnal ymchwil defnyddwyr gyda'r bobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu neu roi meddyginiaethau mewn ysbytai.

Crynhoi'r gwaith

Ar y prosiect hwn rydym wedi:

  • darllen dros 38 o adroddiadau ymchwil blaenorol a chanfyddiadau ar ePMA
  • cynhaliwyd dros 9 awr o gyfweliadau â rhanddeiliaid i ddeall disgwyliadau ePMA
  • 6 awr o gyfweliadau gyda defnyddwyr presennol systemau ePMA