Trosolwg
Sefydlwyd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn 2020 fel corff hyd braich gan Lywodraeth Cymru i helpu i gyflawni'r Strategaeth Ddigidol i Gymru, gan ganolbwyntio ar Genhadaeth 1: gwasanaethau digidol.
Rydym yn cefnogi pobl, timau a sefydliadau i greu trawsnewid digidol cynaliadwy, gan sicrhau gwasanaethau cyhoeddus:
- wedi'u cynllunio o amgylch y bobl sy'n eu defnyddio
- syml, diogel, a chyfleus
- hygyrch, cynhwysol a chost-effeithiol
Trwy gymhwyso dyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a ffyrdd ystwyth o weithio, rydym yn helpu timau i adeiladu gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.
Ein gwerthoedd
Rydyn ni'n ymdrechu i fod yn feiddgar, yn gydweithredol, yn dryloyw ac yn optimistaidd, ac i gadw pobl wrth galon popeth a wnawn.
Ein ffordd o weithio
Mae newid parhaol yn digwydd trwy bartneriaeth a chydweithio.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau cyhoeddus i greu trawsnewid digidol cynaliadwy. Mae ein timau amlddisgyblaethol yn darparu arbenigedd a chefnogaeth ymarferol mewn:
- Gwasanaeth a Chyflenwi cynnyrch
- Dyluniad gwasanaeth, cynnwys a rhyngweithio
- Ymchwil a chyfathrebu defnyddwyr
Llywodraethu ac adrodd
Ein strategaeth
Mae ein cynllun strategol 3 blynedd (2023 i 2026) yn nodi 6 blaenoriaeth i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru:
- Dylanwadu ar yr agenda ddigidol ar gyfer Cymru
- Gweithio gyda sefydliadau i wneud pethau'n wahanol
- Tyfu gallu a sgiliau modern (digidol, data a thechnoleg) yn sector cyhoeddus Cymru
- Gwreiddio safonau a chanllawiau
- Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau a rennir
- Rhedeg CDPS gwych
Llywodraethu ac adrodd
Rydym wedi ymrwymo i lywodraethu da, tryloywder ac atebolrwydd wrth ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru. Am y rheswm yma, rydym yn cyhoeddi:
- adroddiadau sy'n dangos ein cynnydd, ein heffaith, a'n cyflawniadau allweddol
- cofnodion y bwrdd ac adroddiadau'r pwyllgor sy'n manylu ar drafodaethau a phenderfyniadau allweddol