Cynnwys
Dylech bob tro brofi rhywbeth yr ydych am i'r defnyddwyr daflu goleuni arno. Gall hyn fod yn:
- ddyluniad cysyniadol
- cynnwys
- taith defnyddwyr
Pryd dylech chi brofi
Mae profi yn bwysig trwy gydol cylch bywyd cynnyrch neu wasanaeth. Mae hyn yn golygu profi cynnyrch neu wasanaeth o syniadau cyfnod cynnar drwodd i’r gwasanaeth byw sydd ar gael i’r cyhoedd.
Mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio ac yn rhyngweithio â gwasanaeth yn newid yn gyson. Mae hyn yn golygu bod angen gwaith cynnal ac adborth parhaus arno i sicrhau ei fod:
- yn gyfoes
- yn diwallu anghenion defnyddwyr (gallai’r rhain newid dros amser)
- yn effeithlon
- yn gwneud yr hyn y cafodd ei sefydlu i’w wneud
Byddwch yn glir ynglŷn â pham rydych chi’n profi
Cyn i chi brofi rhywbeth bydd angen i chi ddiffinio’r hyn sydd angen i chi ei ddysgu. Gallai hyn ddod o broblem, damcaniaeth, neu dybiaeth.
Mae profi yn ymwneud â dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ddatrys problem. Nid yw ar gyfer ceisio dod o hyd i dystiolaeth i gyd-fynd â’r hyn yr hoffech i ddefnyddiwr ei ddweud.
Profi syniadau neu gysyniadau newydd
Mae prototeipio yn caniatáu i chi brofi syniad cyn ei wneud yn fyw i’r cyhoedd.