Cynnwys
Mae prototeipiau’n frasfodel o syniad. Maen nhw’n caniatáu i chi brofi’r syniad cyn ei wneud yn fyw i’r cyhoedd.
Nid yw prototeipiau i fod yn berffaith. Maen nhw’n gallu bod yn gyflym ac yn fras, ond maen nhw’n gallu cyfleu’r syniad yn ddigon da i chi gael adborth gan ddefnyddwyr.
Pryd i brototeipio
Gallwch brototeipio rhywbeth pan nad yw'n glir beth yw gofynion y cynnyrch, neu maen nhw'n newid yn gyflym.
Efallai y bydd angen i chi greu prototeip os ydych chi'n profi syniad neu gysyniad nad yw'n bodoli eto.
Sut i brototeipio
Gallwch wneud prototeip ar gyfer:
- cynnyrch ffisegol
- gwefan neu ap
- gwasanaeth
Gellir profi cynnyrch ffisegol ar gardfwrdd. Gellir profi gwefan neu ap drwy ffrâm wifren wedi'i dynnu â llaw. Gellir profi rhyngweithiad gwasanaeth gyda chwarae rôl.
Y peth gorau i’w wneud yw dechrau profi syniadau mewn cywair isel yn gyntaf i sicrhau nad ydych yn treulio llawer o amser yn adeiladu rhywbeth nad yw'n diwallu anghenion defnyddwyr.
Gallech:
- ddefnyddio papur i fynd â'ch tîm drwy gamau defnyddio eich ap gyda pheth cynnwys sylfaenol
- gwneud fersiwn digidol sylfaenol a'i brofi gyda defnyddwyr
- ei adeiladu'n fersiwn cywair uchel gyda brandio a chynnwys wedi'i brofi, y gallwch fod â hyder ynddo
Mae'r ddelwedd isod yn dangos gwahanol lefelau o gyweiriau mewn prototeipiau i brofi gyda defnyddwyr a chael eu hadborth.
Credyd llun: Anami Chan
Wrth weithio gyda phrototeipiau, dylech bob amser:
- greu pob cydran fel sgriniau, tudalennau, neu ddyluniadau a chynnwys y cynnwys
- gwneud yn siŵr bod y cydrannau'n cyd-fynd â'r naratif ar gyfer y prototeip yn ddi-dor o safbwynt y defnyddiwr
- ei wneud yn gyson: mae unrhyw gamgymeriadau neu rannau coll yn atgoffa defnyddwyr eu bod yn edrych ar gynnyrch neu wasanaeth ffug
- ymchwilio a chasglu asedau megis cynnwys presennol, llyfrgelloedd delweddau, neu enghreifftiau tebyg i helpu i lunio'r prototeip
- ysgrifennu'r sgript cyfweliad i gynnal cyfweliadau am y prototeip
- cwblhau treial a mynd drwy'r prototeip i ddod o hyd i gamgymeriadau a’u trwsio
Teclynnau ar gyfer prototeipio
Cynhyrchion digidol
Os gallwch chi ddefnyddio meddalwedd dylunio penodol, mae Figma, Sketch ac Adobe XD yn declynnau y gallech chi eu hystyried.
Os nad oes gennych fynediad at declynnau dylunio y telir amdanynt, defnyddiwch declynnau fel:
- Keynote
- PowerPoint
- Canva
Gallech hefyd ddefnyddio teclynnau adeiladu gwefannau fel Squarespace, Wix, Wordpress neu Marvel. Mae'r teclynnau hyn yn wych ar gyfer prototeipio cyflym a phrofi cynnwys mewn porwr.
Cynnyrch ar bapur
Gallai cynhyrchion ar bapur gynnwys llythyrau, llyfrynnau, taflenni, adroddiadau, neu ddeunyddiau marchnata.
I brototeipio'r rhain, defnyddiwch feddalwedd prosesu geiriau megis Microsoft Word neu Google Docs.
Gallwch hefyd ddefnyddio Canva, meddalwedd dylunio, neu offeryn cyflwyno.
Argraffwch gynnyrch ar bapur bob amser i weld sut y byddai'n edrych pan gaiff ei argraffu.
Gwasanaethau
Os ydych chi'n prototeipio gwasanaeth, mae'n syniad da prototeipio gyda sgript neu fwrdd stori.
Gwrthrychau
Gallwch weithio gyda gwrthrychau ffisegol neu ddefnyddio offer digidol i brototeipio'r marchnata ar gyfer cynnyrch.
Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio ar ddyluniad swyddfa newydd, efallai y bydd defnyddio modelau ffisegol yn ddefnyddiol.
Gallech hefyd brototeipio gyda lluniau o sut y gallai'r swyddfa edrych a defnyddio hyn i gasglu adborth.
Wrth brototeipio gwrthrychau ffisegol, gallwch hefyd newid gwrthrych sy'n bodoli eisoes. Rydym wedi canfod bod teganau plant, fel Lego neu playdough, yn ddefnyddiol wrth greu'r mathau hyn o brototeipiau.
Dysgu mwy am brototeipio
- Fe wnaeth tîm Dysgu drwy Greu Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol greu'r pecyn prototeip hwn ar gyfer labordai.
- Pecyn prototeip GOVUK
- Cwrs: Design Thinking – The Beginners’ Guide
- Bill Buxton, What Sketches (and Prototypes) Are and Are Not (pdf)