Mae technoleg hefyd yn annog mwy o fenywod ifanc a dynion canol oed i drefnu apwyntiadau - ond mae prinder Meddygon Teulu
18 Mawrth 2022
Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal prosiect darganfod, a gomisiynwyd gan Wasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd, i ddysgu am brofiad pobl o gael mynediad at wasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru.
Pam rydyn ni'n gwneud y gwaith ymchwil hwn
Roedd y pandemig COVID wedi cyflymu'n sylweddol newidiadau i'r ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu, yn enwedig ar-lein. O'r herwydd, mae'n adeg dda i ganfod sut mae'r newidiadau hyn wedi effeithio ar bobl sy'n defnyddio a darparu'r gwasanaethau hynny.
Bydd canfyddiadau'r prosiect darganfod yn helpu ffurfio datblygiad gwasanaethau digidol ar gyfer y cyhoedd mewn practisiau Meddygon Teulu yng Nghymru ac amlygu ffyrdd o wella mynediad.
Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yma
Mae'r tîm wedi:
- cyfweld â phractisiau Meddygon Teulu o bob maint, mewn lleoliadau trefol a gwledig, ar draws pob bwrdd iechyd
- cyfweld â 23 o Feddygon Teulu a'u cydweithwyr yn y practis, fel derbynyddion
- cyfweld â 12 o bobl, â chyflyrau iechyd presennol a hebddynt, sydd wedi defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu yn ddiweddar
- amlygu themâu sy'n dod i'r amlwg, gyda thystiolaeth ategol
Fe gyfwelon ni â samplau bach o gleifion a chlinigwyr, a ddewiswyd yn ofalus ar gyfer cymysgedd o nodweddion.
Yr hyn rydyn ni'n ei ofyn i bobl
Rydyn ni'n gofyn pethau fel hyn i bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu yn ddiweddar:
- sut maen nhw'n cysylltu â'u practis Meddygon Teulu i wneud pethau fel trefnu apwyntiad, gofyn am bresgripsiwn rheolaidd, cael canlyniadau prawf gwaed
- sut roeddent wedi 'cyfarfod' â'u Meddyg Teulu - wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo
- beth yw eu barn am gael mynediad at eu cofnodion meddygol eu hunain ar-lein
Rydyn ni hefyd yn siarad â staff practisiau Meddygon Teulu i gael eu barn ynglŷn â sut mae pobl yn cael at eu gwasanaethau; beth sy'n gweithio'n dda a beth y mae angen iddo wella.
Yr hyn rydyn ni'n ei ddarganfod
Mae gennym ni fwy o gyfweliadau i'w cwblhau, ond mae themâu eisoes yn dod i'r amlwg.
Rydyn ni wedi dysgu:
- wrth ymateb i'r pandemig, mae llawer o bractisiau Meddygon Teulu yn cynnig apwyntiad ffôn yn gyntaf bellach - ac mae hyn yn fuddiol oherwydd eu bod yn gallu cynnig mwy o apwyntiadau ffôn nag ymgynghoriadau wyneb yn wyneb
- mae'n well gan rai pobl ymgynghoriadau ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb, yn ôl practisiau, gan eu bod yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt; does dim rhaid iddynt deithio i'w meddygfeydd
- hoffai llawer o gleifion gael dewis o ran sut maen nhw'n cyfathrebu â'u meddygfa - wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo, neu hyd yn oed drwy e-bost
- mae heriau'n gysylltiedig â darparu mynediad ar-lein at feddygfeydd, ond hefyd buddion; mae grwpiau newydd o bobl, yn bennaf menywod iau a dynion canol oed, nad ydynt wedi gweld eu Meddyg Teulu o'r blaen, yn gofyn am apwyntiadau
- mae'r galw am wasanaethau Meddyg Teulu yn cynyddu, ond mae'n anodd hurio a chadw Meddygon Teulu
Beth nesaf?
Yn ystod cam nesaf y prosiect, byddwn yn:
- gorffen y cyfweliadau sy'n weddill
- dadansoddi'r data ymchwil terfynol
Anfonwch neges e-bost at Hannah Pike, rheolwr cyflawni'r Cynllun Braenaru Gofal Sylfaenol, gyda chwestiynau am y prosiect hwn.
Dilynwch ni ar Twitter (@CDPS_cymru) a LinkedIn i gael mwy o ddiweddariadau