Mae tîm o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wrthi’n siarad â defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru ynghylch eu canfyddiad nhw o systemau digidol mae cleifion yn eu defnyddio – ysgrifenna'r rheolwr cyflwyno Hannah Pike

4 Mawrth 2022

Art mural for the NHS
Mae darganfyddiad CDPS yn ymchwilio'n fanwl i anghenion cleifion a darparwyr gofal iechyd sylfaenol Cymru © Matthew Waring/Unsplash

Beth ydyn ni’n ei ‘ddarganfod’? 

Mae’r cyfnod darganfod, a gomisiynwyd gan Wasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd (DSPP), sef y rhaglen genedlaethol newydd i wella gwasanaethau digidol i gleifion GIG Cymru, yn casglu mewnwelediadau i sut mae pobl yng Nghymru yn cael mynediad at ofal sylfaenol (yn fwy penodol, gwasanaethau meddygon teulu).

Bydd y cyfnod darganfod, sy'n para am 12 wythnos, yn helpu DSPP i ddeall y pethau hanfodol i'w hystyried wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau digidol mae cleifion yn eu defnyddio mewn gofal sylfaenol.

Bydd ein hymchwil gyda chleifion yn ymdrin â chwestiynau fel:

  • pa mor aml ydych chi’n rhyngweithio â’ch meddyg teulu?
  • pa mor dda y mae’r rhyngweithiad yn bodloni eich anghenion?
  • pa wasanaethau meddygol digidol presennol, os o gwbl, ydych chi’n eu defnyddio?

Meddygfeydd bach a mawr

O ran darparwyr gofal sylfaenol, rydym ni eisiau siarad â phobl o feddygfeydd mawr a bach, gwledig a threfol, sy’n cael eu rheoli neu eu rhedeg gan bartneriaid. Yn ogystal â meddygon teulu eu hunain, byddwn yn ymchwilio i brofiad nyrsys practis, rheolwyr a staff gweinyddol. Yn yr un modd â chleifion, rydym eisiau cael barn fanwl, ar lefel unigol, am sut mae'r defnyddwyr hyn yn rhyngweithio â thechnoleg ddigidol.

Bydd y cyfnod darganfod hefyd yn edrych ar dirwedd ehangach polisi gofal iechyd, technoleg a buddiannau rhanddeiliaid eraill yn ogystal â defnyddwyr uniongyrchol gwasanaethau meddygon teulu.

Beth yw’r canlyniad?

Rydym yn disgwyl i'r sgyrsiau hyn arwain at fewnwelediadau cyfoethog i beth sy'n bwysig i bobl sy'n derbyn a darparu gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.

Yn bendant, ar ddiwedd y cyfnod darganfod, gobeithiwn allu gwneud argymhellion gwybodus, cydbwyso anghenion defnyddwyr, buddiannau ehangach rhanddeiliaid a strategaeth y llywodraeth, am ba ffurf y gallai gwasanaethau digidol mae cleifion yn eu defnyddio fod yn y dyfodol.

Hannah Pike yw rheolwr cyflwyno darganfyddiad braenaru Gofal Sylfaenol