Rydyn ni'n ôl ym Maes D ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni! 

Byddwn yn cynnal digwyddiad panel iaith Cymraeg sy'n dwyn ynghyd uwch arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus, profiadau byw ac arbenigwyr pwnc i drafod pam mae hygyrchedd yn bwysig. Byddwn yn siarad am sut y gall iaith glir, dylunio cynhwysol a thechnolegau cynorthwyol drawsnewid gwasanaethau i bawb, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg. 

Byddwn yn clywed gan: 

  • Jeremy Evas, Pennaeth Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru, cadeirydd ein sesiwn 

  • Dr John-Mark Frost, Cadeirydd dros dro Bwrdd CDPS ac Uwch Cyfarwyddwr y BBC 

  • Rob Williams, Swyddog Cynhwysiant Digidol Vision Support, sefydliad elusennol yng ngogledd-ddwyrain Cymru 

  • Efa Grufudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg 

  • Rhian Bowen Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn 

  • Gruff Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor 

Hefyd... byddwn yn lansio rhywbeth cyffrous! Ymunwch â ni i fod y cyntaf i glywed amdano. 

Nodwch: Mae hwn yn ddigwyddiad agored i aelodau'r cyhoedd ac nid yw'n cynnwys mynediad i'r Eisteddfod. Bydd angen i chi brynu eich tocyn i’r Maes. Gallwch brynu tocyn ar wefan yr Eisteddfod. 

Os hoffech ddod i’r sesiwn, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi'r ffurflen.