Rydyn ni'n ôl ym Maes D ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni!
Byddwn yn cynnal digwyddiad panel iaith Cymraeg sy'n dwyn ynghyd uwch arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus, profiadau byw ac arbenigwyr pwnc i drafod pam mae hygyrchedd yn bwysig. Byddwn yn siarad am sut y gall iaith glir, dylunio cynhwysol a thechnolegau cynorthwyol drawsnewid gwasanaethau i bawb, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.
Byddwn yn clywed gan:
Jeremy Evas, Pennaeth Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru, cadeirydd ein sesiwn
Dr John-Mark Frost, Cadeirydd dros dro Bwrdd CDPS ac Uwch Cyfarwyddwr y BBC
Rob Williams, Swyddog Cynhwysiant Digidol Vision Support, sefydliad elusennol yng ngogledd-ddwyrain Cymru
Efa Grufudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
Rhian Bowen Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn
Gruff Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor
Hefyd... byddwn yn lansio rhywbeth cyffrous! Ymunwch â ni i fod y cyntaf i glywed amdano.
Nodwch: Mae hwn yn ddigwyddiad agored i aelodau'r cyhoedd ac nid yw'n cynnwys mynediad i'r Eisteddfod. Bydd angen i chi brynu eich tocyn i’r Maes. Gallwch brynu tocyn ar wefan yr Eisteddfod.
Os hoffech ddod i’r sesiwn, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi'r ffurflen.