Ry’n ni’n ceisio sefydlu, graddio ac ymgorffori model cynaliadwy ar gyfer cynnal asesiadau gwasanaeth yng Nghymru i gefnogi sefydliadau i fodloni'r Safon Gwasanaeth Digidol Cymru.  

Bydd pob asesiad yn mesur eich gwasanaeth yn erbyn y 12 pwynt yn y Safon Gwasanaeth Digidol Cymru. Bydd yn tynnu sylw at y meysydd lle’r rydych yn gwneud yn dda ac yn rhoi argymhellion i chi wella.   

Mae'r tîm wedi bod yn siarad ag aseswyr gwasanaeth a'r rhai sydd wedi cael asesiad gwasanaeth yn Llywodraeth y DU i ddeall sut maen nhw'n darparu ac yn rhedeg asesiadau gwasanaeth. 

Rydym yn nodi beth y gellir ei ailddefnyddio yng Nghymru a beth sydd ei angen arnom i gyd-ddylunio a chreu model cyflawni graddadwy ar gyfer Cymru. 

Oes gennych diddordeb? Dewch draw i'n sioe dangos a dweud* i ddarganfod mwy.  

* mae sioe dangos a dweud yn gyfarfod lle mae timau'n siarad am eu gwaith, diweddaru ar gynnydd, casglu adborth, a siarad am atalwyr.