Flwyddyn ar ôl lansio ein rhaglen hyfforddi ‘Arwain gwasanaethau cyhoeddus modern', rydym yn dychwelyd i orllewin Cymru. Ymunwch â ni wrth i ni fynd yn ôl i'r dechrau.
Beth i'w ddisgwyl
Bydd gennym banel ysbrydoledig o gyn-fyfyrwyr rhaglen ‘Arwain gwasanaethau cyhoeddus modern’ yn ein hannerch. Byddwn yn clywed am eu teithiau yn arwain, flwyddyn ar ôl cwblhau'r rhaglen. Byddant yn rhannu:
- rhagor o wybodaeth am eu profiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
- y cynnydd y maent wedi'i wneud wrth drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus
- enghreifftiau ymarferol o'r hyn y maent wedi'i roi ar waith ers y rhaglen
- myfyrdodau gonest ar yr heriau y maent wedi'u hwynebu
- sut mae eu rhwydwaith arweinyddiaeth wedi cefnogi eu gwaith
- yr heriau sy'n parhau i fodoli.
Pam dod i'r digwyddiad hwn?
Nid dathliad yn unig yw hwn – mae'n gyfle i ddysgu gan y rhai sy'n arwain newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. P'un a ydych yn gyn-fyfyriwr, yn ystyried gwneud cais, neu'n ymddiddori mewn arweinyddiaeth ym maes gwasanaethau cyhoeddus, heb os, fe gewch eich ysbrydoli a gadael gydag ymdeimlad o berthyn.
Ynglyn a Dolenni Digidol
Mae Dolenni Digidol yn gyfres rhwydweithio cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer uwch arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n hyrwyddo dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a Safon Gwasanaeth Digidol. Mae digwyddiadau personol fel hyn yn darparu cyfle i arweinywr gysylltu, rhannu mewnweliadau, a thrafod heriau gwasanaeth cyhoeddus drwy drafodaethau agored. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal gan CDPS ac yn cael eu cadeirio gan ein huwch dim arwain, ac mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru bob yn ail fis. Er mwyn sicrhau hygyrchedd a chynwysoldeb rydym yn ffrydio ein sesiynau’n fyw, gan wahodd cynulleidfa ehangach i ymgysylltu.
5 - 7pm 1 Hydref 2025
Yr Egin, Caerfyrddin