Cynnwys
Cefndir
Mae Safon Gwasanaethau Digidol Cymru yn diffinio sut olwg sydd ar wasanaethau cyhoeddus da. Bydd defnyddio'r egwyddorion yn y safon yn helpu sefydliadau i ddylunio a rhedeg gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion y defnyddiwr.
Mae'r safon yn sôn am 'greu timau digidol', fodd bynnag, gwyddom fod prinder y sgiliau hyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a bod pwysau cyllidebol sylweddol ar sefydliadau i redeg eu gwasanaethau o ddydd i ddydd sy'n diystyru llogi tîm digidol, data a thechnoleg cyfan (DDaT).
Rydym hefyd yn gwybod bod llawer o bobl wych, angerddol a thalentog yn gweithio yn y sector cyhoeddus sydd â sgiliau trosglwyddadwy perthnasol.
Nodau'r prosiect
Rydym yn gwneud dau beth:
Ei gwneud yn haws i bobl ddeall a nodi'r sgiliau sydd eu hangen i ddylunio gwasanaethau sy'n bodloni Safon Gwasanaeth Digidol Cymru.
Dylunio rhywbeth sy'n helpu sefydliadau i asesu a nodi unrhyw brinder sgiliau yn eu timau i helpu i lywio eu strategaeth datblygu'r gweithlu.
Ein nod yw cyflawni hyn drwy ymchwil ac ymgysylltu â phobl sy'n arwain timau sy'n dylunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Os hoffech sgwrs, byddem wrth ein bodd, cysylltwch â user.research@digitalpublicservices.gov.wales