Mae cynllunio effeithlon ac effeithiol yn hanfodol er mwyn i gymunedau ffynnu. 

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn cyfarfod â chynghorau ledled Cymru i ddeall yn well sut i wneud y broses gynllunio yn symlach ac yn fwy effeithiol i bawb. 

Mae'r ymweliadau hyn yn ein helpu i nodi heriau, rhannu arferion gorau a chydweithio tuag at wella gwasanaethau cynghori cyn ymgeisio ledled Cymru. 

Dysgu gan Gyngor Gwynedd 

Dechreuodd ein taith gydag ymweliad â Chyngor Gwynedd, lle treuliwyd amser yn dysgu am eu prosesau a'u heriau cyn ymgeisio. 

Rhoddodd yr ymweliad hwn gyfle i ni: 

  • ddeall yn well y daith gynllunio o'u safbwynt nhw 

  • nodi'r heriau sy'n wynebu'r timau cynllunio a'r ymgeiswyr yn rheolaidd 

  • archwilio cyfleoedd i wella systemau ac arweiniad 

Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am fod yn agored ac am eu cydweithrediad. Mae wedi bod yn bleser dysgu o'u profiadau, ac rydym yn gyffrous i weithio gyda'n gilydd ar y camau nesaf i greu system fwy effeithlon ar gyfer deiliaid tai a gweithwyr cynllunio proffesiynol. 

Partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg 

Nesaf, fe wnaethom ymweld â Chyngor Bro Morgannwg, partner arall yn y daith hon. 

Yn ystod ein trafodaethau gyda staff a rheolwyr cynllunio, roeddem yn gallu: 

  • cael mewnwelediad i'w proses cynghori cyn ymgeisio 

  • dysgu am yr ymholiadau mwyaf cyffredin a dderbynir 

  • archwilio ffyrdd o symleiddio'r broses ar gyfer ymgeiswyr a staff y cyngor

Amlygodd y sgyrsiau hyn ymrwymiad eu tîm cynllunio i ddarparu cefnogaeth ragorol wrth lywio heriau system gymhleth.  

Archwilio prosesau cyn ymgeisio gyda Chyngor Caerdydd 

Buom hefyd yn siarad â Chyngor Caerdydd, lle gwnaethom ymchwilio'n ddyfnach i'r ffordd y mae eu tîm cynllunio yn ymdrin â cheisiadau cyn ymgeisio. 

Yn ystod yr ymweliad, gwnaethom archwilio: 

  • sut mae ceisiadau'n cael eu cofrestru, eu dilysu a'u prosesu 

  • y cwestiynau cyffredin y maent yn eu derbyn 

  • yr heriau sy'n eu hwynebu wrth ddarparu cyngor amserol 

Roedd clywed am eu profiadau yn ein helpu i weld y broses gynllunio o safbwyntiau technegol a dynol. Roedd yn amlwg faint o ymdrech a wneir i gefnogi ymgeiswyr, ac rydym yn ddiolchgar am eu mewnwelediadau a'u didwylledd.  

Beth sydd nesaf? 

Mae'r ymweliadau hyn wedi rhoi darlun cliriach i ni o'r daith Cynllunio yng Nghymru. Trwy weithio gyda chynghorau a gwrando ar eu profiadau, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer system sy'n haws ei llywio i ymgeiswyr ac yn fwy effeithlon ar gyfer timau cynllunio. 

Cymryd rhan 

Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r sgyrsiau hyn a rhannu diweddariadau ar y cynnydd rydym yn ei wneud. I gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud ac i dderbyn diweddariadau penodol ar y prosiect, ewch i'n tudalen prosiect

Rydym hefyd yn awyddus i siarad ag unigolion sydd naill ai wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu wedi defnyddio'r gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Os hoffech siarad â'n tîm ymchwil defnyddwyr, llenwch ein ffurflen gofrestru os gwelwch yn dda

Os cewch eich dewis i gymryd rhan, byddwch yn derbyn taleb siopa o £20 fel arwydd o'n gwerthfawrogiad.  

Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu proses gynllunio sy'n cefnogi ein cymunedau, symleiddio'r daith i ddeiliaid tai ac yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl.