15 Ionawr 2025, 2 i 3pm 

Microsoft Teams

Sioe dangos a dweud: Deall yr heriau hygyrchedd o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru

Mae hygyrchedd yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ond pa mor dda y mae sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn diwallu'r angen hwn?

Ymunwch â ni am sioe dangos a dweud ar-lein, lle byddwn yn rhannu canfyddiadau ein prosiect darganfod hygyrchedd diweddar.

Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru sy'n awyddus i wella hygyrchedd digidol yn eu sefydliadau. 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:

  • trosolwg o'r ymchwil a gynhaliwyd gennym, gan gynnwys archwiliadau hygyrchedd, cyfweliadau ac arolygon 
  • yr heriau a nodwyd, o fylchau rheoleiddiol i ddiwylliant sefydliadol 
  • y camau nesaf a sut y gallwch gyfrannu at lunio dyfodol hygyrchedd yng Nghymru

Bydd y sioe dangos a dweud hon yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau, rhannu mewnwelediadau, ac archwilio sut y gallwn greu gwasanaethau cyhoeddus digidol mwy hygyrch i bawb yng Nghymru.