15 Ionawr 2025, 2 i 3pm
Microsoft Teams
Sioe dangos a dweud: Deall yr heriau hygyrchedd o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru
Mae hygyrchedd yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ond pa mor dda y mae sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn diwallu'r angen hwn?
Ymunwch â ni am sioe dangos a dweud ar-lein, lle byddwn yn rhannu canfyddiadau ein prosiect darganfod hygyrchedd diweddar.
Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru sy'n awyddus i wella hygyrchedd digidol yn eu sefydliadau.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:
- trosolwg o'r ymchwil a gynhaliwyd gennym, gan gynnwys archwiliadau hygyrchedd, cyfweliadau ac arolygon
- yr heriau a nodwyd, o fylchau rheoleiddiol i ddiwylliant sefydliadol
- y camau nesaf a sut y gallwch gyfrannu at lunio dyfodol hygyrchedd yng Nghymru
Bydd y sioe dangos a dweud hon yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau, rhannu mewnwelediadau, ac archwilio sut y gallwn greu gwasanaethau cyhoeddus digidol mwy hygyrch i bawb yng Nghymru.
15 Ionawr 2025
Microsoft Teams