Cwrs a ddatblygwyd gan David Travis a'i gyflwyno gan CDPS.
Mae'r cwrs hwn ar hyn o bryd yn y cyfnod iteriad cynnar, felly rydym yn cyfyngu ein carfannau cyntaf i'r rhai sydd mewn timau trawsnewid gwasanaethau a digidol.
Cost
Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig.
Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella ein cyrsiau i eraill drwy gymryd rhan yn ein hymchwil.
Canlyniadau'r cwrs
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i:
- ddatgloi anghenion defnyddwyr
- cymedroli prawf defnyddioldeb
- cynllunio ymchwil o fewn fframwaith hyblyg
- dehongli data o ymchwil maes i greu map taith
- nodi a blaenoriaethu tasgau i brofion defnyddioldeb
- dehongli ymchwil i ddefnyddwyr
Sut byddwch chi'n dysgu
- Darperir yn Saesneg ar hyn o bryd – cysylltwch os oes gennych ofynion Cymraeg.
- Cyflwynir yn fyw ar Microsoft Teams gyda deunyddiau a gweithgareddau ategol ar Google Classroom – bydd angen Cyfrif Google i gymryd rhan.
- Dros 9, 3 awr o sessiwn (cyfanswm o 27 awr o hyfforddiant byw).
- 12 unigolyn ym mhob sesiwn.
- Gweithgareddau yn y sesiwn i'ch helpu yn eich dysgu.
- Rhywfaint o waith cartref rhwng sesiynau.
- Cyfle i ddal fyny ar ôl i'r cwrs ddod i ben i weld sut mae’r dysgu wedi'i cael ei roi ar waith.
Bydd sesiynau byw yn cael ei gynnal dros 9.30yb i 12.30yh ar:
- 8 Hydref 2024
- 10 Hydref 2024
- 15 Hydref 2024
- 17 Hydref 2024
- 22 Hydref 2024
- 24 Hydref 2024
- 29 Hydref 2024
- 31 Hydref 2024
- 5 Tachwedd 2024
I gymryd rhan yn y cwrs hwn bydd rhaid i chi mynychu pob sesiwn fyw.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y cwrs hwn, byddwn mewn cysylltiad â rhagor o wybodaeth am gael mynediad at adnoddau trwy Google Classroom a mynychu sesiynau byw ar Microsoft Teams.