Cwrs a ddatblygwyd gan David Travis a'i gyflwyno gan CDPS.

Mae'r cwrs hwn ar hyn o bryd yn y cyfnod iteriad cynnar, felly rydym yn cyfyngu ein carfannau cyntaf i'r rhai sydd mewn timau  trawsnewid gwasanaethau a digidol.

Cost

Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella ein cyrsiau i eraill drwy gymryd rhan yn ein hymchwil.

Canlyniadau'r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i:

  • ddatgloi anghenion defnyddwyr
  • cymedroli prawf defnyddioldeb
  • cynllunio ymchwil o fewn fframwaith hyblyg
  • dehongli data o ymchwil maes i greu map taith
  • nodi a blaenoriaethu tasgau i brofion defnyddioldeb
  • dehongli ymchwil i ddefnyddwyr

Sut byddwch chi'n dysgu

  • Darperir yn Saesneg ar hyn o bryd – cysylltwch os oes gennych ofynion Cymraeg.
  • Cyflwynir yn fyw ar Microsoft Teams gyda deunyddiau a gweithgareddau ategol ar Google Classroom – bydd angen Cyfrif Google i gymryd rhan.
  • Dros 9, 3 awr o sessiwn (cyfanswm o 27 awr o hyfforddiant byw).
  • 12 unigolyn ym mhob sesiwn.
  • Gweithgareddau yn y sesiwn i'ch helpu yn eich dysgu.
  • Rhywfaint o waith cartref rhwng sesiynau.
  • Cyfle i ddal fyny ar ôl i'r cwrs ddod i ben i weld sut mae’r dysgu wedi'i cael ei roi ar waith.

Bydd sesiynau byw yn cael ei gynnal dros 9.30yb i 12.30yh ar:

  • 8 Hydref 2024 
  • 10 Hydref 2024 
  • 15 Hydref 2024
  • 17 Hydref 2024 
  • 22 Hydref 2024
  • 24 Hydref 2024
  • 29 Hydref 2024
  • 31 Hydref 2024
  • 5 Tachwedd 2024


I gymryd rhan yn y cwrs hwn bydd rhaid i chi mynychu pob sesiwn fyw.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y cwrs hwn, byddwn mewn cysylltiad â rhagor o wybodaeth am gael mynediad at adnoddau trwy Google Classroom a mynychu sesiynau byw ar Microsoft Teams.