3 Rhagfyr 2020
Mae Sally Meecham wedi cael ei phenodi’n Brif Swyddog Gweithredol dros dro ar gyfer Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) Cymru.
Mae Sally Meecham, sy’n arbenigwraig ar weddnewid digidol, wedi cael ei phenodi i arwain y Ganolfan trwy ei cham Alffa, gan gefnogi gwelliannau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol ledled Cymru.
Mae Sally wedi dal amryw rolau gweddnewid digidol ar lefel uwch yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae ei rolau diweddar yn cynnwys; Cyfarwyddwr y rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Llywodraeth Cymru, Prif Swyddog Gweithredu Gwasanaeth Digidol Swyddfa’r Cabinet/y Llywodraeth, Prif Swyddog Digidol a Thechnoleg yng Ngwasanaeth Masnachol y Goron, Cynghorydd Digidol i Gyngor Sir Essex a Phrif Gynghorydd Digidol yn Defra.
Mae hi wedi cyflawni nifer o raglenni cynhwysiant digidol llwyddiannus iawn yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac mae’n frwd ac yn rhagweithiol ynglŷn â chael mwy o gynhwysiant ac amrywiaeth yn y proffesiwn digidol, data a thechnoleg.
A hithau’n Brif Swyddog Gweithredol dros dro, bydd Sally yn canolbwyntio ar gyflawni cam Alffa’r rhaglen, yn ogystal â’r cynllun, y cylch gorchwyl a’r ymrwymiad i barhau â gwaith y Ganolfan y tu hwnt i fis Mawrth 2021, gan sicrhau bod gan Gymru gorff canolog i arwain a chefnogi materion digidol yng Nghymru.
Bydd y Ganolfan yn sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r galluoedd i ddarparu gwasanaethau wedi’u gweddnewid yn ddigidol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau’r defnyddiwr. Bydd yn denu cyfleoedd a buddsoddiad newydd i Gymru trwy arddangos ymagwedd gydgysylltiedig, amlsefydliadol a digidol alluog ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.